P-06-1250 Dylid agor cyfleuster ysbyty llawn, gan gynnwys adran damweiniau ac achosion brys yng nghanolbarth Cymru
P-06-1250 Dylid agor cyfleuster ysbyty llawn, gan gynnwys adran damweiniau ac achosion brys yng nghanolbarth Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Andrew Wallace, ar ôl casglu cyfanswm o 1,811
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i aelodau o’r cyhoedd sy’n byw yng nghanolbarth
Cymru deithio rhwng 30 a 50 o filltiroedd i gyrraedd y cyfleuster ysbyty
agosaf.
Rydym yn dibynnu ar ysbytai Lloegr a gofal sylfaenol y tu allan i oriau yn
Lloegr (shropdoc - www.shropdoc.org.uk) ar gyfer gofal.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Yn ddiweddar, mae ambiwlansys yn ardal canolbarth Cymru wedi cymryd hyd at
5 awr i gyrraedd cleifion y mae’n amlwg eu bod mewn helynt, gyda bywyd yn y
fantol weithiau.
Mae ein cyfleusterau meddygol sylfaenol yn yr ardal yn cael trafferth
ymdopi.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/05/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chydnabod y pryderon
gwirioneddol a gododd y deisebydd. Er nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei
wneud i fwrw ymlaen â’r ddeiseb, cytunwyd ei bod yn bwysig tynnu sylw’r
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y pryderon ac ymateb y Gweinidog.
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebydd am godi’r mater.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
09/05/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Sir Drefaldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/02/2022