P-06-1248 Dylid newid y Rheolau Sefydlog a'r meini prawf ar gyfer derbyn deisebau
P-06-1248 Dylid newid y Rheolau Sefydlog a'r meini prawf ar gyfer derbyn deisebau
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Bryan Dredge, ar ôl casglu cyfanswm o 116
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar hyn o bryd, mae deisebau sy'n ymwneud â phenderfyniadau gweithredol
awdurdodau lleol yn cael eu gwrthod yn awtomatig gan y Pwyllgor Deisebau yn
unol â’r Rheolau Sefydlog. Ar draws Cymru, mae awdurdodau lleol yn diystyru
datganiadau Cynulliad Cymru, megis am yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur
ac yn gwneud penderfyniadau sy'n mynd yn uniongyrchol groes i ddatganiadau o'r
fath. Mae llawer o ffermydd yn cael eu colli tra bo cynghorau'n ceisio gwneud y
gorau o’u refeniw drwy ganiatáu gwaith adeiladu ychwanegol ar dir llain las.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Ym mis Chwefror 2016, cynhaliodd y Pwyllgor Deisebau ymarfer ymgynghori â’r
cyhoedd ac adolygiad o drefniadau deisebau cyhoeddus. O dan eitem 17,
cadarnhawyd bod 57 y cant o'r cyhoedd o blaid caniatáu deisebau am
benderfyniadau gweithredol awdurdodau lleol ac roedd yr ymatebion gan
ddeisebwyr yn gymysg. O dan eitem 21, nodwyd y canlynol:
“Er gwaethaf yr ymatebion i'r arolwg ar-lein, ymddengys nad oedd cytundeb
dros newid yn y maes hwn a rhesymau da dros beidio ag ymyrryd yn y broses leol
o wneud penderfyniadau.”
Mae hyn yn gwrthod hawl i'r cyhoedd ddefnyddio’r llwybr cywir i herio
penderfyniadau awdurdodau lleol yn gywir sy'n mynd yn groes i'r nodau a'r
ymrwymiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud. Noda Polisi Cynllunio Cymru
y canlynol:
"Mae gan Weinidogion Cymru bwerau wrth gefn i wneud eu Gorchmynion
Dirymu/Addasu neu Ddirwyn i Ben eu hunain, ond dim ond ar ôl ymgynghori â’r
awdurdod cynllunio."
Sut y gall y cyhoedd ofyn am hyn pan wrthodir deisebau’n awtomatig?
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/06/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac yng ngoleuni'r ymateb a
gafwyd gan y Llywydd, cytunodd i gau'r ddeiseb ac i ddiolch i'r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
21/03/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2022