P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru
P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Janet Paterson, ar ôl casglu cyfanswm o
1,334 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn pryderu nad yw’r gwasanaethau cyfredol i bobl ag epilepsi sy’n byw
yng Nghymru yn rhoi’r cymorth a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt.
Mae Epilepsy Action yn argymell llwyth achosion o ddim mwy na 250 o bobl i
bob Nyrs Epilepsi Arbenigol, a hynny er mwyn lleihau effaith eu cyflwr a
darparu’r gofal gorau posibl. Nid oes yr un rhan o Gymru’n bodloni’r
argymhelliad hwn ar hyn o bryd.
Mae yna brinder nyrsys epilepsi arbenigol ac mewn llawer o ardaloedd mae’r
amseroedd aros i weld niwrolegwyr dros 12 mis.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Byddai cynyddu nifer y nyrsys epilepsi arbenigol yn holl fyrddau iechyd
Cymru yn help mawr o ran cael mynediad at wasanaethau a’r cymorth y mae pobl ag
epilepsi’n ei gael.
Mae nyrsys epilepsi arbenigol yn aelodau hollbwysig o’r timau sy’n gofalu am
bobl ag epilepsi. Maent yn gweithio ochr yn ochr â niwrolegwyr ymgynghorol a
gweithwyr gofal iechyd eraill i roi cyngor a chymorth hanfodol yn ystod
apwyntiadau ac, yr un mor bwysig, rhwng apwyntiadau.
Yn aml, nyrsys epilepsi arbenigol yw’r pwynt cyswllt cyntaf i bobl ag
epilepsi sydd angen cyngor neu gymorth mewn perthynas â’u cyflwr, ac mae eu
cyfraniad yn werthfawr dros ben. Mae rôl hanfodol nyrsys epilepsi arbenigol o
ran gofalu am bobl ag epilepsi a’u cefnogi i’w weld yn yr adroddiad ESPENTE
diweddar gan Epilepsy Action https://www.epilepsy.org.uk/research/espente
Yn ogystal â chynyddu nifer y nyrsys epilepsi arbenigol, mae angen mwy o
gyllid ar yr holl wasanaethau epilepsi yng Nghymru i sicrhau bod pobl ag
epilepsi yn cael y cymorth a’r gofal y mae eu hangen arnynt.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Arfon
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/01/2022