P-06-1239 Canslo Arholiadau TGAU yng Nghymru
P-06-1239 Canslo Arholiadau TGAU yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Millie Rae, ar ôl casglu cyfanswm o 396
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae ansicrwydd ynghylch a fydd arholiadau’n cael eu canslo. Mae hyn yn
ychwanegu straen pellach ar ddysgwyr nad ydynt wedi cael blwyddyn lawn o addysg
ers 2019! Drwy gael graddau wedi’u hasesu gan y ganolfan, bydd y disgyblion yn
teimlo mwy o sicrwydd. Iechyd meddwl a lles disgyblion ddylai fod yn brif
flaenoriaeth wrth wneud y penderfyniad hwn. Llofnodwch y ddeiseb hon nawr i
helpu disgyblion blwyddyn 10 ac 11 i wireddu eu potensial yn llawn a chael y
graddau y maent yn eu haeddu.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/02/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor y bu’r Llywodraeth yn glir ei bod yn
bwriadu i arholiadau fynd yn eu blaen eleni, ond mae trefniadau wrth gefn os
nad yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn golygu bod modd i’r arholiadau fynd yn eu
blaen. Mae’r Pwyllgor yn cydnabod y straen y mae pobl ifanc yn ei wynebu yn
ystod y cyfnod hwn, ond dywedodd ei bod yn anodd gweld pa gamau pellach y gall
eu cymryd ynghylch y ddeiseb. Cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r
ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/02/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Merthyr Tudful a Rhymni
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/01/2022