NDM7877 Dadl Plaid Cymru

NDM7877 Dadl Plaid Cymru

NDM7877 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r anghydraddoldebau iechyd dwfn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru.

2. Yn nodi ymhellach, oherwydd yr anghydraddoldebau hyn, fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

3. Yn galw am strategaeth a chynllun gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod amryfal resymau yn achosi anghydraddoldeb iechyd a bod hyn yn gofyn am ddull gweithredu integredig a thrawslywodraethol.

Yn cydnabod ymhellach yr ymrwymiadau sylweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu ar draws pob maes o weithgarwch y llywodraeth sydd wedi’u cynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Rhaglen lywodraethu

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/01/2022