Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr
Inquiry5
YouTube-Here
https://www.youtube.com/embed/JUM9VOwOwgE
Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
ymchwiliad byr ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr.
Mae'r Pwyllgor
wedi cyhoeddi ei adroddiad
ysgrifenedig (PDF 1,911KB) a'i adroddiad
fideo Mae’n effeithio ar bawb – Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith
dysgwyr ar 13 Gorffennaf 2022.
Ar 8 Medi cafodd
y Pwyllgor ymateb
(PDF 404KB) i'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mercher 26
Hydref 2022.
Cefndir yr
ymchwiliad
Mae aflonyddu
rhywiol rhwng pobl ifanc wedi cael cryn dipyn o sylw yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf. Sefydlwyd mudiad
Everyone’s Invited i dynnu sylw at ddiwylliant trais rhywiol, ac i’w
ddileu, drwy empathi, trugaredd a dealltwriaeth. Mae gwefan Everyone’s Invited
yn rhoi llwyfan i ddioddefwyr gofnodi eu tystiolaeth a'u profiadau yn ddienw. Yn ôl y BBC ym mis
Mehefin 2021, mae dros 90 o ysgolion yng Nghymru wedi eu rhestru ar y
wefan.
Ar ôl hynny,
gofynnodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i Estyn gynnal adolygiad o ddiwylliant
a phrosesau mewn ysgolion. Cyhoeddwyd adroddiad
Estyn ar 8 Rhagfyr 2021.
Ar 13 Rhagfyr
2021, cytunodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnal ymchwiliad i
aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr. Cytunodd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad ar
20 Ionawr 2022, a’r dull o gasglu tystiolaeth ar 27 Ionawr 2022.
Cylch gorchwyl
Roedd yr
ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith
dysgwyr oedran ysgol a choleg. Fe wnaeth yr ymchwiliad edrych yn benodol ar y
canlynol:
- Maint a natur y broblem mewn lleoliadau
addysg a faint o ddysgwyr y mae hyn yn effeithio arnynt.
- I ba raddau y mae’r broblem hon hefyd yn
digwydd y tu allan i leoliadau addysg ffurfiol, gan gynnwys ar-lein.
- Yr effaith ar ddysgu, iechyd meddwl a
llesiant dysgwyr.
- Yr effaith ar leoliadau addysg a staff, er
enghraifft o ran disgyblaeth a’r graddau y mae aflonyddu ymhlith dysgwyr
wedi cael ei ‘normaleiddio’.
- Yr effeithiau penodol ar grwpiau penodol o
ddysgwyr, er enghraifft disgyblion hŷn, merched a disgyblion LGBTQ+.
- Effeithiolrwydd polisïau a chanllawiau
cyfredol, a’r camau i nodi atebion a gwelliannau posibl.
- Effeithiolrwydd rolau ystod eang o gyrff
statudol mewn perthynas â’r mater hwn, gan gynnwys yr heddlu, gwasanaethau
cymdeithasol, adrannau addysg awdurdodau lleol, unedau cyfeirio
disgyblion, ac ysgolion eu hunain, a’r graddau y mae dull aml-asiantaeth
yn cael ei fabwysiadu lle bo’n briodol.
- Effeithiolrwydd yr ymateb ar y cyd ar draws
holl adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru, gyda ffocws ar addysg,
gwasanaethau cymdeithasol a diogelwch cymunedol a’r ffordd y mae’n cynnwys
gwasanaethau heb eu datganoli fel yr heddlu a’r system cyfiawnder
troseddol.
- Effaith cynnwys ar-lein a dylanwadau ar
agweddau pobl ifanc, a chyd-destun ehangach diogelwch ar-lein a
deddfwriaeth bosibl yn San Steffan.
- Y ffordd y mae ysgolion, colegau ac
awdurdodau lleol yn casglu ac yn defnyddio data am fwlio ac aflonyddu, fel
sy’n berthnasol i’r mater hwn.
- Rôl teuluoedd, rhieni, a gofalwyr, fel sy’n
berthnasol i’r mater hwn.
- Rôl y Cwricwlwm newydd i Gymru o ran datblygu
agweddau iachach at faterion cydberthynas a rhywioldeb.
Tra bod yr
ymchwiliad penodol hwn wedi canolbwyntio ar ddisgyblion oedran ysgol ac oedran
coleg, gallai gwaith posibl yn y dyfodol ystyried yr effaith o fewn addysg
uwch.
Casglu
tystiolaeth
Dechreuodd y
Pwyllgor glywed tystiolaeth lafar ym mis Chwefror 2022. Mae rhagor o wybodaeth
am sesiynau tystiolaeth unigol ar gael o dan y tab cyfarfodydd ar frig y
dudalen.
Ymgynghoriad
Lansiodd y
Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 18 Chwefror 2022. Daeth yr
ymgynghoriad i ben ar 1 Ebrill 2022. Mae'r holl ymatebion
wedi'u cyhoeddi.
Yn ogystal â'r
ymgynghoriad ar-lein, cynhaliodd tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Pwyllgor arolwg
ar-lein rhwng 18 Mawrth a 1 Ebrill. Roedd cwestiynau'r arolwg yn targedu pobl
ifanc rhwng 11 a 18 oed ac yn gofyn sut yr oeddent yn credu y gellid mynd i'r
afael â mater aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, o fewn a thu allan i ysgolion
a cholegau. Cynhyrchwyd crynodeb
(PDF 168KB) o'r themâu a ddaeth i’r amlwg. Cynhaliodd y tîm Ymgysylltu â
Dinasyddion weithdy hefyd gyda 5 o fyfyriwr ffilm a theledu o Goleg Cambria,
Glannau Dyfrdwy, lle buont yn archwilio'r ymatebion i'r arolwg ac yn trafod yr
atebion posibl i broblem aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr. Cafodd y
canfyddiadau eu troi’n fideo.
Cymorth
Mae thema'r arolwg
hwn yn bwnc sensitif. Os hoffech gael cymorth, rydym yn argymell eich bod yn
cysylltu â'r elusennau canlynol:
Childline: 0800
1111
Meic Cymru: 0808
80 23456
Live Fear Free:
0808 80 10 800
Survivors Trust:
0808 801 0818
Bydd yr elusennau
hyn yn rhoi’r cyfle i chi siarad ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddo.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2022
Dogfennau
- Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 12 Ebrill 2023
PDF 187 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 28 Chwefror 2023
PDF 278 KB
- Llythyr gan brif swyddogion UNISON Cymru ar gyfer ysgolion – 9 Chwefror 2023 (Saesneg yn unig)
PDF 170 KB Gweld fel HTML (3) 12 KB
- Llythyr oddi wrth y Pennaeth Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) - 6 Ionawr 2023
PDF 526 KB
- Llythyr at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - 14 Rhagfyr 2022
PDF 105 KB
- Gwybodaeth a gyflwynwyd gan yr Undeb Addysg Cenedlaethol mewn ymateb i'r llythyr a anfonwyd ar 26 Medi ynghylch aflonyddu’n rhywiol ar staff ysgolion - 16 Tachwedd 2022
PDF 174 KB Gweld fel HTML (6) 6 KB
- Gwybodaeth a gyflwynwyd gan UNSAIN mewn ymateb i'r llythyr a anfonwyd ar 26 Medi ynghylch aflonyddu’n rhywiol ar staff ysgolion - 10 Tachwedd 2022
PDF 473 KB
- Gwybodaeth gan ParentKind, cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn - 25 Hydref 2022 (Saesneg yn unig)
PDF 181 KB Gweld fel HTML (8) 6 KB
- Gwybodaeth gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn - 20 Hydref 2022 (Saesneg yn unig)
PDF 656 KB Gweld fel HTML (9) 14 KB
- Gwybodaeth a gyflwynwyd gan Gymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau mewn ymateb i'r llythyr a anfonwyd ar 26 Medi ynghylch aflonyddu’n rhywiol ar staff ysgolion - 17 Hydref 2022 (Saesneg yn unig)
PDF 441 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan NSPCC Cymru, cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn - 17 Hydref 2022 (Saesneg yn unig)
PDF 179 KB Gweld fel HTML (11) 5 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru - 8 Medi 2022
PDF 404 KB
- Coleg Cambria - Fideo aflonyddu rhywiol cyfoedion ar gyfoedion MP4 27 MB
- Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu
PDF 168 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at undebau athrawon - 26 Medi 2022
PDF 233 KB
- Gwybodaeth gan Blaid Cydraddoldeb Menywod Cymru - 23 Medi 2022 (Saesneg yn unig)
PDF 123 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru - 29 Gorffennaf 2022
PDF 167 KB
- Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ffion Williams, aelod o Senedd Ieuenctid Cymru - 29 Gorffennaf 2022
PDF 174 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Brif Weithredwr Dros Dro Colegau Cymru - 27 Gorffennaf 2022
PDF 159 KB
- Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Reolwyr Gyfarwyddwyr y Consortia Addysg Rhanbarthol - 27 Gorffennaf 2022
PDF 176 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Chadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - 31 Mai 2020
PDF 277 KB
- Llythyr ar y cyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd - 23 Mai 2022
PDF 421 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gwir Anrhydeddus Nadine Dorries AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon - 19 Mai 2022
PDF 109 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at fyfyrwyr Coleg Cambria - 12 Mai 2022
PDF 77 KB
Ymgynghoriadau
- Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr (Wedi ei gyflawni)