Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr
Inquiry4
YouTube-Here
https://www.youtube.com/embed/JUM9VOwOwgE
Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad
byr ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr.
Mae'r Pwyllgor
wedi cyhoeddi ei adroddiad
ysgrifenedig a'i adroddiad fideo
Mae’n effeithio ar bawb – Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr ar
13 Gorffennaf 2022
Beth sy’n
digwydd nesaf?
- Bydd yr adroddiad yn cael ei anfon at
Weinidog y Gymraeg ac Addysg ac at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a
fydd yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor o fewn 6 wythnos.
- Ar ôl i’r Pwyllgor ystyried yr ymateb, bydd
dadl yn cael ei threfnu yn y Cyfarfod Llawn
- Bydd y Pwyllgor yn monitro cynnydd yr
argymhellion drwy gydol y chweched Senedd
Cefndir yr
ymchwiliad
Mae aflonyddu
rhywiol rhwng pobl ifanc wedi cael cryn dipyn o sylw yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf. Sefydlwyd mudiad
Everyone’s Invited i dynnu sylw at ddiwylliant trais rhywiol, ac i’w
ddileu, drwy empathi, trugaredd a dealltwriaeth. Mae gwefan Everyone’s Invited
yn rhoi llwyfan i ddioddefwyr gofnodi eu tystiolaeth a'u profiadau yn ddienw. Yn ôl y BBC ym mis
Mehefin 2021, mae dros 90 o ysgolion yng Nghymru wedi eu rhestru ar y
wefan.
Ar ôl hynny,
gofynnodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i Estyn gynnal adolygiad o ddiwylliant
a phrosesau mewn ysgolion. Cyhoeddwyd adroddiad
Estyn ar 8 Rhagfyr 2021.
Ar 13 Rhagfyr
2021, cytunodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnal ymchwiliad i
aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr. Cytunodd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad ar
20 Ionawr 2022, a’r dull o gasglu tystiolaeth ar 27 Ionawr 2022.
Cylch gorchwyl
Roedd yr
ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith
dysgwyr oedran ysgol a choleg. Fe wnaeth yr ymchwiliad edrych yn benodol ar y
canlynol:
- Maint a natur y broblem mewn lleoliadau
addysg a faint o ddysgwyr y mae hyn yn effeithio arnynt.
- I ba raddau y mae’r broblem hon hefyd yn
digwydd y tu allan i leoliadau addysg ffurfiol, gan gynnwys ar-lein.
- Yr effaith ar ddysgu, iechyd meddwl a
llesiant dysgwyr.
- Yr effaith ar leoliadau addysg a staff, er
enghraifft o ran disgyblaeth a’r graddau y mae aflonyddu ymhlith dysgwyr
wedi cael ei ‘normaleiddio’.
- Yr effeithiau penodol ar grwpiau penodol o
ddysgwyr, er enghraifft disgyblion hŷn, merched a disgyblion LGBTQ+.
- Effeithiolrwydd polisïau a chanllawiau
cyfredol, a’r camau i nodi atebion a gwelliannau posibl.
- Effeithiolrwydd rolau ystod eang o gyrff
statudol mewn perthynas â’r mater hwn, gan gynnwys yr heddlu, gwasanaethau
cymdeithasol, adrannau addysg awdurdodau lleol, unedau cyfeirio
disgyblion, ac ysgolion eu hunain, a’r graddau y mae dull aml-asiantaeth
yn cael ei fabwysiadu lle bo’n briodol.
- Effeithiolrwydd yr ymateb ar y cyd ar draws
holl adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru, gyda ffocws ar addysg,
gwasanaethau cymdeithasol a diogelwch cymunedol a’r ffordd y mae’n cynnwys
gwasanaethau heb eu datganoli fel yr heddlu a’r system cyfiawnder
troseddol.
- Effaith cynnwys ar-lein a dylanwadau ar
agweddau pobl ifanc, a chyd-destun ehangach diogelwch ar-lein a
deddfwriaeth bosibl yn San Steffan.
- Y ffordd y mae ysgolion, colegau ac
awdurdodau lleol yn casglu ac yn defnyddio data am fwlio ac aflonyddu, fel
sy’n berthnasol i’r mater hwn.
- Rôl teuluoedd, rhieni, a gofalwyr, fel sy’n
berthnasol i’r mater hwn.
- Rôl y Cwricwlwm newydd i Gymru o ran datblygu
agweddau iachach at faterion cydberthynas a rhywioldeb.
Er bod yr
ymchwiliad penodol hwn yn canolbwyntio ar ddisgyblion oed ysgol a choleg,
gallai gwaith yn y dyfodol ystyried yr effaith ym maes addysg uwch.
Casglu
tystiolaeth
Dechreuodd y
Pwyllgor glywed tystiolaeth lafar ym mis Chwefror 2022. Mae rhagor o wybodaeth
am sesiynau tystiolaeth unigol ar gael o dan y tab cyfarfodydd ar frig y
dudalen.
Ymgynghoriad
Lansiodd y
Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 18 Chwefror 2022. Daeth yr
ymgynghoriad i ben ar 1 Ebrill 2022. Mae'r holl ymatebion
wedi'u cyhoeddi.
Yn ogystal â'r
ymgynghoriad ar-lein, cynhaliodd tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Pwyllgor arolwg
ar-lein rhwng 18 Mawrth a 1 Ebrill. Roedd cwestiynau'r arolwg yn targedu pobl
ifanc rhwng 11 a 18 oed ac yn gofyn sut yr oeddent yn credu y gellid mynd i'r
afael â mater aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, o fewn a thu allan i ysgolion
a cholegau. Cynhyrchwyd crynodeb
o'r themâu a ddaeth i’r amlwg. Cynhaliodd y tîm Ymgysylltu â Dinasyddion
weithdy hefyd gyda 5 o fyfyriwr ffilm a theledu o Goleg Cambria, Glannau
Dyfrdwy, lle buont yn archwilio'r ymatebion i'r arolwg ac yn trafod yr atebion
posibl i broblem aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr. Cafodd y canfyddiadau eu
troi’n fideo.
Cymorth
Mae thema'r
arolwg hwn yn bwnc sensitif. Os hoffech gael cymorth, rydym yn argymell eich
bod yn cysylltu â'r elusennau canlynol:
Childline: 0800
1111
Meic Cymru: 0808
80 23456
Live Fear Free:
0808 80 10 800
Survivors Trust:
0808 801 0818
Bydd yr elusennau
hyn yn rhoi’r cyfle i chi siarad ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddo.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2022
Dogfennau
- Coleg Cambria - Fideo aflonyddu rhywiol cyfoedion ar gyfoedion MP4 27 MB
- Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu
PDF 168 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Chadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - 31 Mai 2020
PDF 277 KB
- Llythyr ar y cyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd - 23 Mai 2022
PDF 421 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gwir Anrhydeddus Nadine Dorries AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon - 19 Mai 2022
PDF 109 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at fyfyrwyr Coleg Cambria - 12 Mai 2022
PDF 77 KB
Ymgynghoriadau
- Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr (Wedi ei gyflawni)