Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru

Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru

Buodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn craffu ar waith Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, ei gylch gorchwyl a chwmpas y cyrff sy’n cael eu cwmpasu gan ei gylch gwaith gyda’r Ysgrifenydd Parhaol ar 26 Chwefror 2022.

Cynhaliodd y Pwyllgor waith craffu ar Rhaglen Adolygiadau Teilwredig Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Adroddiad Terfynol y Panel Adolygiadau Teilwredig ar Amgueddfa Cymru. Yn ddiweddarach, rhoddwyd sylw i faterion yn ymwneud ag Amgueddfa Cymru fel rhan o waith ar wahân i ystyried canfyddiadau Adroddiad er Budd y Cyhoedd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: ‘Trefniadau llywodraethu mewn perthynas ag anghydfod cyflogaeth yn Amgueddfa Cymru’. Roedd y gwaith hwn hefyd yn canolbwyntio ar rai materion cyffredinol yn ymwneud â Phroses Adolygiadau Teilwredig Llywodraeth Cymru.

Cafodd materion ehangach yn ymwneud â rôl yr Uned Cyrff Cyhoeddus mewn Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru eu hystyried gan y Pwyllgor fel rhan o'i ymchwiliad i Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru. Y Pwyllgor ei ac mae bellach wedi gorffen ystyried y maes gwaith hwn.

 

 

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/12/2021

Dogfennau