Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau
Cyflwynwyd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau
(y Bil) yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 6 Gorffennaf 2021.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi mai ei ddiben “Gwneud darpariaeth ynghylch cenedligrwydd, lloches a
mewnfudo; gwneud darpariaeth ynghylch dioddefwyr caethwasiaeth neu fasnachu
pobl; darparu pŵer
i Dribiwnlysoedd godi tâl ar y
rhai sy’n
ymddwyn mewn modd sy’n
gwastraffu adnoddau’r
Tribiwnlys; ac ar gyfer dibenion cysylltiedig.“
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar
fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Gwrthodwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn y
Cyfarfod Llawn ar 15 Chwefror 2022.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Rhagfyr 2021
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
(PDF 198KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 6 Rhagfyr 2021.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r
Memorandwm at y Pwyllgor Iechyd a
Gofal Cymdeithasol, y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno
erbyn 17 Chwefror 2022 (PDF 49.6KB).
Yn y cyfarfod ar
25 Ionawr 2022, cytunodd
(PDF 51.7KB) y Pwyllgor Busnes ar dyddiad cau newydd i bob Pwyllgor ystyried y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol a chyflwyno adroddiad arno erbyn 15
Chwefror 2022.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad (PDF
291KB) ar 15 Chwefror 2022. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 15 Chwefror 2022.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad (PDF
349KB) ar 15 Chwefror 2022.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
153KB) ar 11 Chwefror 2022. Ymatebodd Llywodraeth
Cymru i’r adroddiad (PDF 420KB) ar 14 Chwefror 2022.
Gellir gweld
rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol,
gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/12/2021
Dogfennau
- Ymateb gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau - 15 Chwefror 2022
PDF 495 KB
- Llythyr ar y cyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes - 06 Ionawr 2022
PDF 322 KB
- Llythyr ar y cyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol - 18 Ionawr 2022
PDF 196 KB
- Llythyr ar y cyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at randdeiliaid - 18 Ionawr 2022
PDF 209 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol - 3 Chwefror 2022
PDF 3 MB
- Galwad wedi’i thargedu am dystiolaeth ysgrifenedig: cyflwyniadau ysgrifenedig
- LCM NBB 01 - Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Saesneg yn unig)
PDF 296 KB
- LCM NBB 02 - BMA Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 515 KB
- LCM NBB 03 - Coleg Brenhinol y Meddygon (Saesneg yn unig)
PDF 287 KB
- LCM NBB 04 - Y Rhwydwaith Maethu (Saesneg yn unig)
PDF 258 KB
- LCM NBB 05 - NYAS Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 367 KB
- LCM NBB 06 - Iechyd Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 718 KB
- LCM NBB 07 - Comisiynydd Plant Cymru
PDF 289 KB
- LCM NBB 08 - Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (Saesneg yn unig)
PDF 168 KB
- LCM NBB 08a - Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (Saesneg yn unig)
PDF 221 KB
- LCM NBB 09 - EYST Wales (Saesneg yn unig)
PDF 372 KB
- LCM NBB 10 - Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 283 KB
- LCM NBB 11 - UNCRC Monitoring Group (Saesneg yn unig)
PDF 282 KB
- LCM NBB 12 - Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 268 KB
- LCM NBB 13 - WLGA, ADSS Cymru and All Wales Heads of Children’s Services (Saesneg yn unig)
PDF 342 KB