P-06-1238 Gwahardd polystyren a phlastigau untro eraill!

P-06-1238 Gwahardd polystyren a phlastigau untro eraill!

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nafisa Derradji, ar ôl casglu cyfanswm o 130 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Ar 3 Gorffennaf 2021, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gwahardd amrywiaeth o blastigau untro, gan gynnwys polystyren, cyllyll a ffyrc plastig, gwellt yfed, cwpanau a hyd yn oed ffyn bach plastig gyda gwlân cotwm ar bob pen. Mae gwaharddiad llwyr ar draws pob un o’r aelod-wladwriaethau.

Rwy’n credu y dylai Cymru ddilyn y camau hyn ac y dylen ni hefyd wahardd yr eitemau hyn.

Mae llawer o fwytai cludfwyd yng Nghymru yn dal i ddefnyddio cannoedd o gynhwysion polystyren bob dydd am mai dyma’r opsiwn rhataf.

Cefnogwch hyn os gwelwch yn dda.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ni ellir ailgylchu polystyren ac mae’n cael effaith drychinebus ar yr amgylchedd; mae hefyd yn wenwynig pan gaiff ei adael yn yr amgylchedd.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 24/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd hon, a’r gefnogaeth drawsbleidiol i hyn gan y Senedd a’r Senedd Ieuenctid. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i'r deisebydd am godi’r mater a bydd yn cau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 24/01/2022.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • De Caerdydd a Phenarth
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/01/2022