P-06-1237 Ystyried defnyddio Graddau a Aseswyd gan Athrawon ar gyfer dysgwyr na allent sefyll arholiadau TGAU ym mis Tachwedd oherwydd prawf COVID positif. Dylid sicrhau bod trefniadau tecach ar waith ar gyfer arholiadau mis Mai

P-06-1237 Ystyried defnyddio Graddau a Aseswyd gan Athrawon ar gyfer dysgwyr na allent sefyll arholiadau TGAU ym mis Tachwedd oherwydd prawf COVID positif. Dylid sicrhau bod trefniadau tecach ar waith ar gyfer arholiadau mis Mai

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Leanne Grabham, ar ôl casglu cyfanswm o 126 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Roedd fy mab, sydd ym mlwyddyn 11, wedi paratoi’n llawn i sefyll ei arholiadau Rhifedd TGAU ar 2 a 4 Tachwedd. Ar 31 Hydref, cymerodd brawf llif unffordd yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru. Roedd y prawf hwn yn bositif, a dilynwyd hyn gan brawf PCR positif. Roedd hyn yn golygu na allai sefyll ei arholiadau er bod yr ysgol wedi’i baratoi’n drylwyr ar eu cyfer yn ddiweddar. Ni ddylai fod o dan anfantais oherwydd y pandemig - ac ni ddylai pobl eraill sydd â Covid fod o dan anfantais chwaith. Maent wedi gweithio mor galed i gyrraedd y pwynt hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Nid yw negeseuon e-bost gan y bwrdd arholi a Llywodraeth Cymru yn gefnogol o gwbl.

 

A person writing on a piece of paper

Description automatically generated with low confidence

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 24/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor yr effaith ar bobl ifanc unigol, a’r anhawster i rieni ac athrawon sy’n ceisio cefnogi pobl ifanc. Fodd bynnag, o ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru a chynlluniau ar gyfer arholiadau yn y dyfodol, nid oes unrhyw gamau pellach y gall y Pwyllgor eu cymryd, felly cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 24/01/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/01/2022