P-06-1236 Dylai menywod gael ei sgrinio'n rheolaidd gyda phrawf gwaed o'r enw CA125 i ganfod canser yr ofari
P-06-1236 Dylai menywod gael ei sgrinio'n rheolaidd gyda phrawf gwaed o'r enw CA125 i ganfod canser yr ofari
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Julie Elaina Morris, ar ôl
casglu cyfanswm o 389 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae fy mam wedi cael diagnosis diweddar o ganser
sylfaenol yr ofari a chanser eilaidd y peritonewm. Pe bai menywod yn cael eu
sgrinio’n rheolaidd gyda’r prawf gwaed CA125 byddai modd canfod arwyddion
cynnar, fel maent yn sgrinio ar gyfer canser ceg y groth a mamogramau ar gyfer
canser y fron. Mae canser yr ofari yn ganser tawel, a phan mae menywod yn cael
unrhyw symptomau mae’r canser fel arfer wedi cyrraedd cam mwy datblygedig.
Byddai canfod y canser yn gynnar yn golygu y gellid trin menywod yn gynt ac
osgoi marwolaethau.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 24/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor hanes deisebau ar y pwnc hwn;
canlyniadau'r treial 20 mlynedd; a pharodrwydd y Llywodraeth i newid ei
safbwynt os bydd y cyngor meddygol yn newid. Cytunodd yr Aelodau i gau’r
ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater pwysig.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 24/01/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Cwm Cynon
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2022