P-06-1233 Diddymu Rheoliadau Coronafeirws a dod â holl gyfyngiadau COVID-19 i ben
P-06-1233 Diddymu Rheoliadau Coronafeirws a dod â holl gyfyngiadau COVID-19 i ben
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lauren M, ar ôl casglu
cyfanswm o 89 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Dylid diddymu holl gyfyngiadau COVID, adfer iawnderau
sifil a rhyddid cymdeithasol a chynyddu ffocws ar addysg, arweiniad, cyngor ac
arferion gorau.
Dylid caniatáu’r rhyddid i ddewis o blaid iechyd meddwl:
Gall y rheini sy'n dymuno ynysu yn eu cartrefi gael rhwydd hynt i wneud hynny,
felly hefyd y rheini sy'n dymuno dychwelyd i fywyd normal.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae'r wlad mewn sefyllfa wahanol iawn o’i chymharu â mis
Mawrth 2020, gyda nifer sylweddol o’r canlynol: 1) Brechiadau yn erbyn y
Coronafeirws. 2) Gwybodaeth wyddonol, feddygol a chyhoeddus, dealltwriaeth a
phrofiad o'r feirws. 3) Therapiwteg. 4) Protocolau trin cleifion. 5) Profi,
Tracio ac Olrhain. 6) Profion cymunedol torfol.
Mae angen i’r cyhoedd i gymryd cyfrifoldeb personol i
reoli eu risgiau eu hunain a chydbwyso'r risgiau yn gymesur â theulu, ffrindiau
a rhyngweithio cymdeithasol, fel y mae'r cyhoedd yn ei wneud fel rhan o fywyd
arferol.
Dylid adfer iechyd meddwl a chaniatáu'r rhyddid i ddewis.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 24/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith y bydd y rhan fwyaf
o’r cyfyngiadau wedi’u codi erbyn diwedd mis Ionawr os bydd sefyllfa iechyd y
cyhoedd yn parhau i wella yng Nghymru. Felly, gan ei bod yn debygol nad oes
angen unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r ddeiseb hon, cytunodd yr Aelodau
i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
24/01/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2022