P-06-1233 Diddymu Rheoliadau Coronafeirws a dod â holl gyfyngiadau COVID-19 i ben

P-06-1233 Diddymu Rheoliadau Coronafeirws a dod â holl gyfyngiadau COVID-19 i ben

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lauren M, ar ôl casglu cyfanswm o 89 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Dylid diddymu holl gyfyngiadau COVID, adfer iawnderau sifil a rhyddid cymdeithasol a chynyddu ffocws ar addysg, arweiniad, cyngor ac arferion gorau.

Dylid caniatáu’r rhyddid i ddewis o blaid iechyd meddwl: Gall y rheini sy'n dymuno ynysu yn eu cartrefi gael rhwydd hynt i wneud hynny, felly hefyd y rheini sy'n dymuno dychwelyd i fywyd normal.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae'r wlad mewn sefyllfa wahanol iawn o’i chymharu â mis Mawrth 2020, gyda nifer sylweddol o’r canlynol: 1) Brechiadau yn erbyn y Coronafeirws. 2) Gwybodaeth wyddonol, feddygol a chyhoeddus, dealltwriaeth a phrofiad o'r feirws. 3) Therapiwteg. 4) Protocolau trin cleifion. 5) Profi, Tracio ac Olrhain. 6) Profion cymunedol torfol.

Mae angen i’r cyhoedd i gymryd cyfrifoldeb personol i reoli eu risgiau eu hunain a chydbwyso'r risgiau yn gymesur â theulu, ffrindiau a rhyngweithio cymdeithasol, fel y mae'r cyhoedd yn ei wneud fel rhan o fywyd arferol.

Dylid adfer iechyd meddwl a chaniatáu'r rhyddid i ddewis.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 24/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith y bydd y rhan fwyaf o’r cyfyngiadau wedi’u codi erbyn diwedd mis Ionawr os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella yng Nghymru. Felly, gan ei bod yn debygol nad oes angen unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r ddeiseb hon, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 24/01/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pontypridd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2022