NDM7855 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM7855 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM7855
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn cydnabod bod clefyd niwronau motor yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym nad
oes gwellhad ar ei gyfer a bod traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn o
gael diagnosis.
2.
Yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £50 miliwn i ariannu ymchwil i
driniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau motor.
3.
Yn cydnabod bod mynediad teg a chyflymach at addasiadau tai yn hanfodol er mwyn
sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn gallu byw'n
ddiogel, yn annibynnol ac ag urddas yn eu cartrefi eu hunain.
4.
Yn credu bod effaith yr oedi wrth osod addasiadau tai a'r broses profi modd yn
cael effaith enfawr ar yr amser sydd ar ôl gan y pobl sy'n byw gyda chlefyd
niwronau motor.
5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symleiddio mynediad at addasiadau tai drwy greu
proses nad yw'n seiliedig ar brawf modd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2021