Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai

Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai

Inquiry5

 

Mae llif da o ran cleifion yn gwella ansawdd gofal i gleifion, ond mae nifer o ffactorau'n debygol o fod yn achosi oedi wrth drosglwyddo gofal, gan gynnwys problemau capasiti o fewn y system gofal cymdeithasol, ac o ganlyniad mae rhai cleifion sy'n barod i'w rhyddhau yn aros yn yr ysbyty. Mae hyn yn cael effaith niweidiol ar yr unigolyn, ac ar y llif cleifion drwy'r ysbyty, ac mae’n cyfrannu at bwysau ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a’r gwasanaethau ambiwlans.

 

Yn ystod y Chweched Senedd, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn bwriadu edrych ar sut y gellir gwella llif cleifion drwy ysbytai.

 

Rhan gyntaf y gwaith hwn oedd cynnal ymchwiliad byr a oedd canolbwyntio ar ryddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai.

 

Ar 15 Mehefin 2022, cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad, sy’n cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 28 Gorffennaf 2022. Trafododd y Senedd adroddiad y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru ar 12 Hydref 2022.

 

Gwybodaeth am ymchwiliad y Pwyllgor

 

Yn benodol, dyma’r hyn a ystyriwyd gan ymchwiliad y Pwyllgor:

 

  • graddfa'r sefyllfa bresennol o ran oedi wrth drosglwyddo gofal o ysbytai.
  • effaith oedi wrth ryddhau cleifion o ysbytai ar yr unigolyn ac ar y llif cleifion drwy ysbytai ac ar y pwysau ar y gwasanaeth.
  • yr amrywiadau o ran arferion rhyddhau cleifion o ysbytai ledled Cymru ac ar draws y ffin, a sut maent yn diwallu anghenion gofal a chymorth unigolion.
  • y prif achosion pwysau a'r prif rwystrau i ryddhau cleifion ag anghenion gofal a chymorth o ysbytai, gan gynnwys gallu'r gwasanaethau gofal cymdeithasol.
  • y gefnogaeth, y cymorth a'r cyngor sydd ar waith ar gyfer gofalwyr teuluol a gofalwyr di-dâl yn ystod y broses.
  • yr hyn sydd wedi gweithio yng Nghymru, a rhannau eraill o'r DU, wrth gefnogi rhyddhau cleifion o ysbytai a gwella llif cleifion, ac adnabod y nodweddion cyffredin.
  • yr hyn sydd ei angen i alluogi pobl i ddychwelyd adref ar yr adeg iawn, gyda'r gofal a'r cymorth cywir ar waith, gan gynnwys mynediad at wasanaethau ailalluogi, ac ystyried anghenion o ran tai.

 



Er mwyn ymchwilio i’r materion hyn, gwnaeth y Pwyllgor y canlynol:

>>>> 

>>>Cyhoeddi galwad ysgrifenedig am dystiolaeth rhwng 8 Tachwedd 2021 a 7 Ionawr 2022. Cawsom 45 o ymatebion.

>>>Cynnal sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid allweddol ar 27 Ionawr 2022, 10 Chwefror 2022, 14 Chwefror 2022 a 10 Mawrth 2022.

>>>Cynnal sesiwn tystiolaeth lafar gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar 24 Mawrth 2022.

>>>Cyhoeddi adroddiad a datganiad i'r cyfryngau i gyd-fynd ag ef ar 15 Mehefin 2022.

>>>Cynnal dadl ar ei adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Hydref 2022.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/11/2021

Dogfennau

Ymgynghoriadau