P-06-1227 Mae angen uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng Ngogledd Cymru

P-06-1227 Mae angen uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng Ngogledd Cymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nia Catrin Foulkes, ar ôl casglu cyfanswm o 7,706 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae angen uned mamau a babanod yng Ngogledd Cymru fel nad oes yn rhaid i deuluoedd deithio i Loegr, ac mae angen i'r gwasanaeth hwn fod ar gael yn Gymraeg. Mae hwn yn wasanaeth iechyd meddwl hanfodol sy’n angenrheidiol ar gyfer Gogledd Cymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ym mis Mai 2019, ar ôl genedigaeth fy mab, cefais fy nerbyn i’r uned mamau a babanod ym Manceinion. Roedd yn anodd iawn i mi orfod mynd i Loegr ymhell oddi wrth fy nheulu a'm ffrindiau yng Ngogledd Cymru. Roeddwn i'n ei chael hi'n arbennig o anodd, am fy mod i’n Gymraes iaith gyntaf a oedd mewn ysbyty yn Lloegr. Mae gwir angen y gwasanaeth iechyd meddwl hwn yng Ngogledd Cymru, oherwydd credaf y byddai fy adferiad wedi bod yn gyflymach pe bawn i’n nes adref.

 

Mae cael babi yn brofiad sy’n newid bywyd rhywun, ac mae rhai mamau'n ei chael hi'n anoddach nag eraill i ddygymod, ac mae'n gyffredin iawn i fenywod gael anawsterau gyda'u hiechyd meddwl ar yr adeg hon. Gan gofio hyn, gallai mynediad i uned mamau a’u babanod ddod i ran unrhyw un, ac mae'n wasanaeth hanfodol y mae mawr ei angen ar lawer o deuluoedd. Felly byddai cael y gwasanaeth hwn yn agos atom wedi bod yn werthfawr tu hwnt i mi a'm teulu.

 

woman kissing baby

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 25/04/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y cynlluniau i ddatblygu gwasanaeth yn mynd rhagddynt, ac y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mater hwn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y dyfodol. Gan hynny, cytunodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gamau eraill y gallai eu cymryd yn awr a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at fater pwysig iawn drwy gyfrwng y ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 24/01/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2021