P-06-1221 Gwrthodwch gynlluniau ar gyfer Cynllun Solar Ffermwyr Gwynllwg, sef fferm solar ar gyrion Maerun
P-06-1221 Gwrthodwch gynlluniau ar gyfer Cynllun Solar Ffermwyr Gwynllwg, sef fferm solar ar gyrion Maerun
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Helen Rowena Colvin, ar ôl casglu cyfanswm o
122 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Bwriad y cynllun hwn yw datblygu fferm solar 152 hectar ar Wastadeddau
Gwent, sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’n safle unigryw o ran
ei gynefinoedd a’i fioamrywiaeth.
Dylid gwrthod y cynlluniau oherwydd yr effaith negyddol y byddent yn eu
cael ar yr amgylchedd ac ar gynefinoedd rhywogaethau prin. Hefyd oherwydd yr
effaith negyddol y byddent yn eu cael ar amgylchedd byw y pentrefwyr lleol.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried safleoedd llai gwerthfawr yn
amgylcheddol i gyflawni eu haddewid o ran ynni adnewyddadwy.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru
newydd yr M4 i redeg drwy’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig hwn, am
resymau amgylcheddol. Byddai’n rhagrithiol caniatáu datblygu’r hyn sy’n gyfystyr
â gorsaf ynni solar drwy’r un ardal, dim ond oherwydd ei bod yn cyfrannu at
addewid y Blaid Lafur o ran ynni adnewyddadwy. Dylid dod o hyd i safleoedd mwy
priodol.
Datganiad Gwrandawiad yr Ymgeisydd, a chynlluniau manwl:
https://dns.planninginspectorate.gov.uk/wp-content/ipc/uploads/projects/DNS/3216558/DNS-3216558-000297-Applicant%20Hearing%20Statement.pdf
[Saesneg yn unig].
Statws
Yn ei gyfarfod ar 29/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd a chefnogwyr y
ddeiseb ar y canlyniad llwyddiannus a gafwyd, a chaeodd y ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
29/11/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Casnewydd
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/11/2021