Y Rhaglen Cartrefi Clyd

Y Rhaglen Cartrefi Clyd

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr adroddiad hwn ym mis Tachwedd 2021, yn dilyn ei adroddiad cychwynnol ar dlodi tanwydd ym mis Hydref 2019. Hefyd, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig adroddiad ym mis Ebrill 2020, a oedd wedi’i lywio’n rhannol gan yr adroddiad cychwynnol hwnnw, a chafwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae’r gwaith ychwanegol y mae Archwilio Cymru wedi’i wneud ar y mater hwn yn canolbwyntio ar broses Llywodraeth Cymru o reoli contractau ar gyfer rhaglenni Arbed a Nyth i fynd i’r afael, yn rhannol, â materion a godwyd gyda’r Archwilydd Cyffredinol mewn gohebiaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwerthusiad ehangach o gynllun Arbed.

 

Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yr adroddiad hwn yn hydref 2021, a nododd fwriad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i wneud gwaith pellach yn y maes hwn fel rhan o’i ymchwiliad i dlodi tanwydd.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/11/2021

Dogfennau