Gofalu am y Gofalwyr? Sut roedd cyrff y GIG yn cefnogi lles staff yn ystod pandemig COVID-19
Gofalu am y Gofalwyr? Sut roedd cyrff y GIG yn cefnogi lles staff yn ystod pandemig COVID-19
Cyhoeddodd Archwilydd
Cyffredinol Cymru y sylwebaeth
fer hon ym mis Hydref 2021, a ddeilliodd o waith asesu strwythuredig gan
Archwilio Cymru mewn perthynas â’r GIG. Mae’r sylwebaeth yn trafod pwysigrwydd
cefnogi llesiant staff drwy ddisgrifio sut y mae cyrff y GIG wedi cefnogi
llesiant eu staff yn ystod y pandemig, gan ganolbwyntio’n benodol ar y
trefniadau i warchod staff sy’n fwy agored i niwed o COVID-19.
Mae’r rhan fwyaf
o’r argymhellion wedi’u targedu at gyrff lleol, ond mae argymhellion 7 ac 8
wedi’u cyfeirio at Lywodraeth Cymru.
Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r Archwilydd Cyffredinol ym mis Tachwedd 2021.
Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn trafod yr adroddiad hwn yn ystod yr hydref 2021.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/11/2021
Dogfennau