Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

Mae'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol (PDF 364KB) (y Cytundeb), a osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Tachwedd 2021, yn cynrychioli sefyllfa y cytunwyd arni gan y Senedd a Llywodraeth Cymru ynghylch y wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r Senedd, lle bo hynny'n briodol, o ran cyfranogiad Llywodraeth Cymru mewn cyfarfodydd rhyng-lywodraethol ffurfiol, ar lefel weinidogol, mewn concordatau, mewn cytundebau, mewn fframweithiau cyffredin ac mewn memoranda cyd-ddealltwriaeth.

 

Cytunwyd yn ffurfiol ar y fersiwn wedi'i diweddaru o'r Cytundeb gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (y Pwyllgor) ar 1 Tachwedd 2021 yn dilyn trafodaethau rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru.

 

Rhannwyd gohebiaeth a dogfennau sydd i'w gweld ar y dudalen hon gyda'r Senedd yn unol â'r Cytundeb.

 

Cefndir

 

Mae'r Cytundeb wedi'i ddiweddaru yn deillio o waith Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Bumed Senedd (Pwyllgor y Bumed Senedd), a gyhoeddodd adroddiad ar Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Chwefror 2018. Mae Argymhelliad 9 o'r adroddiad hwnnw’n nodi:

 

“Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn llunio cytundeb ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol gyda'r Pwyllgor hwn, er mwyn cefnogi’r gwaith craffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.”

 

Cytunodd Pwyllgor y Bumed Senedd yn ffurfiol ar fersiwn wreiddiol y Cytundeb ar gyfer y Bumed Senedd ym mis Ionawr 2019.

 

Ar 27 Hydref 2020 gosododd Llywodraeth Cymru ei Hadroddiad Blynyddol  (PDF 127KB) cyntaf.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/11/2021

Dogfennau