Ymchwiliad i’r achosion o COVID-19 ac effaith y feirws ar ddiwylliant, y diwydiannau creadigol, treftadaeth, cyfathrebu a chwaraeon
Bydd yr
ymchwiliad yn ystyried effaith yr achosion, ac effaith rheoli’r achosion ar
sectorau sy’n rhan o gylch gwaith y
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, gan gynnwys:
>>>>
>>>diwylliant
a’r diwydiannau creadigol;
>>>treftadaeth;
>>>y
cyfryngau cenedlaethol a chymunedol, gan gynnwys radio cymunedol;
>>>newyddiaduraeth;
ac,
>>>at
ddibenion yr ymchwiliad hwn, byddwn hefyd yn edrych ar chwaraeon ar lefel lawr
gwlad ac elitaidd.
<<<<
Bydd y Pwyllgor
yn edrych yn fanwl ar yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus
perthnasol. Bydd hefyd yn ystyried ymateb Cymru yng nghyd-destun ehangach y DU.
Mae’r Pwyllgor yn
awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb yn yr ymchwiliad hwn.
Yn ogystal â
gofyn am farn yn ysgrifenedig, byddwn hefyd yn cynnal rhaglen gasglu
tystiolaeth lafar rithwir. Cyhoeddir manylion llawn y sesiynau hyn ar ein
gwefan pan fyddant yn derfynol.
Yn benodol, mae
gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn darganfod:
>>>>
>>>Beth
fu effaith uniongyrchol Covid-19 ar y sector?
>>>Pa
mor effeithiol y mae’r gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru,
Llywodraeth y DU a chyrff hyd braich wedi mynd i’r afael ag anghenion y sector?
>>>Beth
fydd effeithiau hirdymor tebygol Covid-19 ar y sector, a pha gefnogaeth sydd ei
hangen i ymdrin â’r rheini?
>>>Pa
wersi y gellir eu dysgu o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU,
cyrff hyd braich a’r sector wedi ymdrin â Covid-19?
>>>Sut
mae modd i’r sector esblygu ar ôl Covid-19, a sut y gall Llywodraeth Cymru
gefnogi arloesedd o’r fath i ymdrin â heriau yn y dyfodol?
<<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi ei ddileu
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/10/2021