Blaenraglen waith - Y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd
Blaenraglen waith - Y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd
Mae blaenraglen
waith Y Pwyllgor Diben Arbennig ar
Ddiwygio'r Senedd yn nodi'r gwaith y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei wneud yn
ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Yn ei gyfarfod ar
3 Tachwedd 2021, cytunodd y Pwyllgor i strwythuro ei waith ar sail y cyfnodau
bras a ganlyn:
-
Cyfnod
Un: bydd yr Aelodau’n nodi lle mae tir cyffredin – neu bosibilrwydd i’w sefydlu
– rhwng safbwyntiau polisi eu pleidiau gwleidyddol, mewn perthynas â diwygio’r
Senedd;
-
Cyfnod
Dau: ar feysydd a nodwyd yng Nghyfnod Un, casglu rhagor o wybodaeth yn ôl yr
angen i’r Pwyllgor ddatblygu argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi; a
-
Cyfnod
Tri: datblygu argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi.
Caiff
diweddariadau ar waith y Pwyllgor eu cyhoeddi maes o law.
Bydd unrhyw
ddogfennau a gyhoeddwyd eisoes yn nodi bwriadau'r Pwyllgor adeg eu cyhoeddi.
Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y rhaglen yn newid ar unrhyw adeg er mwyn
ymateb i ddigwyddiadau allanol.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/11/2021