P-06-1211 Dylid cael gwared ar y camerâu cyflymder cyfartalog a'r terfyn cyflymder o 50mya ar yr M4 rhwng Casnewydd a Chaerdydd
P-06-1211 Dylid cael gwared ar y camerâu cyflymder cyfartalog a'r terfyn cyflymder o 50mya ar yr M4 rhwng Casnewydd a Chaerdydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael Slade, ar ôl casglu cyfanswm o 145
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae'r Llywodraeth yn bwrw ymlaen â’r cynllun i osod camerâu cyflymder
cyfartalog a phennu terfyn cyflymder newydd o 50mya ar yr M4 rhwng Casnewydd a
Chaerdydd. Mae’n honni y bydd y mesurau hyn yn lleihau damweiniau a llygredd,
ac yn lleddfu tagfeydd. Rydym yn mynnu bod y Llywodraeth yn gwyrdroi'r polisi
hwn ar unwaith. Dylai'r buddsoddiad dan sylw fynd tuag at fentrau gwyrdd sydd o
fudd i’r cyhoedd, yn hytrach na gosod cyfyngiadau arnynt. Y ffordd orau o
leddfu tagfeydd yw cynyddu darpariaeth (fel creu lonydd ychwanegol neu adeiladu
ffordd osgoi) yn hytrach na lleihau'r galw – a fydd yn niweidio'r economi.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor bryderon y deisebydd, ond nododd hefyd
fod strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais ar yr
amgylchedd, ansawdd aer a llesiant pobl drwy ganolbwyntio ar deithio amgen a
gwella’r seilwaith ar gyfer teithio cyhoeddus. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad
nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gael gwared ar y camerâu
cyflymder cyfartalog ar hyn o bryd, a chytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r
deisebydd a chau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
15/11/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Dwyrian De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/10/2021