NDM7793 Welsh Conservatives debate: Mental Health

NDM7793 Welsh Conservatives debate: Mental Health

NDM7793 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

 

1. Yn nodi mai dydd Sul 10 Hydref yw diwrnod iechyd meddwl y byd.

 

2. Yn cydnabod effaith COVID-19 ar gymorth iechyd meddwl ac anghydraddoldebau iechyd meddwl.

 

3. Yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl ifanc sy'n dod i'r ysbyty gyda phroblemau hunan-niweidio wedi codi 39 y cant ers 2007.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys yn ei strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd newydd y flwyddyn nesaf:

 

a) camau i weithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pumed Senedd, Cadernid Meddwl a Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach;

 

b) adroddiadau blynyddol a phennu targedau ar gyfer amseroedd aros i gael triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys lleihau ôl-groniadau;

 

c) cyflwyno canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol;

 

d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir.

 

5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf iechyd meddwl newydd.

 

Cadernid Meddwl

Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi’r ymrwymiad i adolygu’r dystiolaeth, y data a’r ddarpariaeth gwasanaethau bresennol ar gyfer hunan-niweidio i bobl o bob oed yng Nghymru.

 

Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r canlynol:

 

a) gweithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd, Cadernid Meddwl a Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach;

b) cryfhau a chyhoeddi data amseroedd aros iechyd meddwl a gwella perfformiad ledled Cymru;

c) cyflwyno cymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol;

d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwygiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl y DU yn addas ar gyfer Cymru ac yn gyson â deddfwriaeth berthnasol bresennol yng Nghymru.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

 

'cyflwyno rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl a lles ieuenctid ataliol'.

Math o fusnes: Dadl

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/08/2024