P-06-1206 Adolygwch safonau Mynediad i Bractis Cyffredinol yng Nghymru yng ngoleuni pandemig
P-06-1206 Adolygwch safonau Mynediad i Bractis Cyffredinol yng Nghymru yng ngoleuni pandemig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michele Richards, ar ôl casglu cyfanswm o 516
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae meddygon teulu yng Nghymru wedi cael targed anghyraeddadwy o ateb 90% o
alwadau o fewn 2 funud er mwyn cael cyllid llawn. Mae hyn bron yn amhosibl ei
gyflawni o dan amgylchiadau arferol ond oherwydd y galw cynyddol a phrinder
staff mae hyn yn afrealistig yn ystod pandemig.
Gwybodaeth Ychwanegol:
https://www.bma.org.uk/pay-and-contracts/contracts/gp-contract/gp-contract-wales-202021.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod
effaith y pandemig ar feddygon teulu ac wedi ymestyn y cyllid sydd ar gael am
flwyddyn arall i gefnogi’r broses o weithredu ac ymgorffori’r safonau mynediad.
Nododd y Pwyllgor hefyd fod Pwyllgor Ymarfer Cyffredinol Cymdeithas Feddygol
Prydain wedi bod yn rhan o'r trafodaethau ynghylch y safonau a'r contractau
gwasanaeth. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
15/11/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyrain Casnewydd
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/10/2021