P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr

P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cara Wilson, ar ôl casglu cyfanswm o 6,469 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae prisiau tai’n gorfodi pobl leol o'u cymunedau eu hunain. Mae hyn yn dinistrio ein diwylliant a'n hiaith. Nid yw adeiladu mwy o dai’n ddigon.

 

Rydym yn galw am ailfeddwl polisi sylfaenol i flaenoriaethu anghenion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd pobl Cymru yn unol â’r cynllun gweithredu Cymraeg 2050 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Rhowch lais i bobl ar ddatrys ein hargyfwng tai: gweithredu wyth gofyniad y Siarter Cyfiawnder Cartrefi a sefydlu Cynulliad Dinasyddion i sbarduno newid.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae Covid-19 wedi dangos yr angen am gamau gweithredu pendant gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng mawr. Mae angen gweithredu ar frys nawr i fynd i’r afael â’n hargyfwng tai, cyn i ddiwylliannau lleol a’r Gymraeg gael eu colli a chyn i farchnad dai ddireolaeth ddinistrio cymunedau trefol a gwledig Cymru.

 

Mae'r grŵp Siarter Cyfiawnder Cartrefi yn gydweithrediad gwleidyddol di-blaid ar draws Cymru. Gwnaethom ymchwilio i'r holl faterion a’r atebion a gynigiwyd gan eraill a'u crynhoi mewn wyth maes cyflawnadwy a chadarnhaol ar gyfer gweithredu.

 

Gweithredu gofynion y Siarter; defnyddio Cynulliad Dinasyddion i sbarduno'r newid:

1. Datgan argyfwng tai yng Nghymru

2. Creu bil i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb tai.

3. Amddiffyn ein cymunedau; rhai gwledig a threfol.

4. Amddiffyn y Gymraeg a diwylliant Cymru.

5. Diwygio darpariaeth tai cymdeithasol.

6. Mynd i'r afael â’r mater dybryd perchnogaeth ail gartrefi ar frys.

7. Diwygio cyfreithiau cynllunio i ymateb i anghenion tai lleol.

8. Creu Cynulliad Dinasyddion ar dai.

 

I gael mwy o wybodaeth am bob gofyniad, ewch i siartercartrefi.org.

 

A row of houses

Description automatically generated with medium confidence

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 10/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cydnabu’r Pwyllgor y pryderon difrifol a godwyd gan y ddeiseb ynghylch tai fforddiadwy a’r effaith negyddol ar gymunedau lleol ledled Cymru. O ystyried natur gymhleth y pryderon hyn, croesawodd y Pwyllgor y ffaith bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cynnal ymchwiliad manwl i’r maes hwn, a chytunwyd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor i ofyn i’r Pwyllgor gynnwys y materion a godwyd yn y ddeiseb hon fel rhan o'i ymchwiliad.

 

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/01/2022.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Preseli Sir Benfro
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2021