Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2021
Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2021
Cyhoeddodd
Archwilydd Cyffredinol Cymru yr Adroddiad
hwn ym mis Medi 2021. Mae’n ystyried sefyllfa gwasanaethau cyhoeddus rhwng
2010-11 a 2019-20: cyn i bandemig COVID-19 ddechrau, gan roi’r cyd-destun o ran
cyllid cyhoeddus, blaenoriaethau, y pwysau ar wasanaethau a’r cyfyngiadau o ran
capasiti. Mae’n sôn ychydig am ar yr ymateb i’r pandemig cyn ystyried rhai o’r
materion o bwys i wasanaethau cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd nesaf ac
agweddau pwysig ar drawsnewid gwasanaethau.
Ochr yn ochr â’r
prif adroddiad, mae Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi dogfennau mwy cryno yn
ymdrin â sectorau penodol yn yr hydref, gan gynnwys meysydd fel iechyd, gofal cymdeithasol, ysgolion a dysgu cynnar,
addysg bellach a llywodraeth leol yn
gyffredinol.
Buodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn nodi yr adroddiadau hwn yn ystod tymor yr hydref
2021.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/09/2021