Adfywio Canol Trefi yng Nghymru
Adfywio Canol Trefi yng Nghymru
Cyhoeddodd
Archwilydd Cyffredinol Cymru yr adroddiad
hwn ym mis Medi 2021 ac mae’n canolbwyntio’n bennaf ar weithgareddau awdurdodau
lleol wrth adfywio canol trefi. Hefyd, mae’n ystyried sut roedd awdurdodau
lleol yn cydweithio â’u partneriaid yn y sector cyhoeddus a rhanddeiliaid
eraill, gan gynnwys busnesau a dinasyddion. Roedd yr adolygiad hefyd yn trafod
canllawiau a pholisi cenedlaethol, a’r amrywiaeth o strwythurau lleol,
rhanbarthol a chenedlaethol, pensaernïaeth partneriaeth a chydweithredol, a
threfniadau cyllido a chyflenwi.
Bwriad Swyddfa
Archwilio Cymru yw y bydd y gwaith hwn yn darparu sylwadau ‘amser real’ ar
fuddion defnyddio dull adfywio newydd, wrth i awdurdodau lleol a’u cymunedau
ymateb i effaith COVID-19.
Buodd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn trafod a nodi yr
adroddiad hwn yn nhymor yr Hydref 2021.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi ei ddileu
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/09/2021