P-06-1190 Gwahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunydd tyfu erbyn 2023
P-06-1190 Gwahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunydd tyfu erbyn 2023
Petitions4
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Jake Rayson, ar ôl casglu cyfanswm o 1,014 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
corsydd a rhostiroedd mawn yn eithriadol o bwysig yn y frwydr yn erbyn yr
argyfwng hinsawdd; gan ddal a storio carbon yn well na llawer o dirweddau
naturiol, lleihau llifogydd a darparu bioamrywiaeth. Mae angen i ni wahardd y
defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunydd tyfu erbyn 2023, gan
gynnwys mewnforion.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Ar
hyn o bryd, mawn yw 40% o'r deunydd tyfu a ddefnyddir gan y cyhoedd, a mwy na
60% o’r hyn a ddefnyddir yn y sector proffesiynol. Mae yna ddeunyddiau eraill y
gellir eu defnyddio, fel rhisgl coconyt, pren wedi'i gompostio a llwydni dail.
Yn hytrach na chloddio mawndiroedd, dylid eu diogelu a'u hadfer.
Dylai'r
Senedd ddiogelu ac adfer holl gorsydd a rhostiroedd mawn Cymru ac, yn
hollbwysig, sicrhau nad oes unrhyw fawn yn yr holl ddeunydd tyfu sy'n cael ei
werthu a'i ddefnyddio yng Nghymru.
•
3 miliwn metr ciwbig o fawn yn cael eu gwerthu at ddefnydd garddwriaethol bob
blwyddyn yn y DU, gyda ⅓
o fawndiroedd yn y DU (IUCN http://bit.ly/peat-extraction-horticulture)
•
20 miliwn tunnell o garbon deuocsid yn cael eu colli i'r atmosffer bob blwyddyn
o fawndiroedd sydd wedi'u difrodi yn y DU (IUCN http://bit.ly/peat-climate)
•
Dinistr y mawndiroedd yn rhyddhau symiau enfawr o CO2 (New Scientist http://bit.ly/peatland-destruction)
•
Mae mawndiroedd yn cefnogi llawer o rywogaethau ac ecosystemau unigryw (IUCN http://bit.ly/peat-species)

Statws
Yn ei gyfarfod ar 27/03/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Adran yr
Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wrthi’n ymgynghori ynghylch y mater.
Cytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa ac ailystyried y ddeiseb pan fydd
Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r casgliadau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
04/10/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/09/2021