P-06-1191 Dylid cael gwared ar fesurau cadw pellter cymdeithasol ym mhob priodas yng Nghymru yr haf hwn ar ôl 15 Gorffennaf 2021
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Owain Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 809
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
I
lawer o gyplau sy’n edrych ymlaen at ddechrau eu bywyd teuluol mae priodas yn
un o’r digwyddiadau pwysig mewn bywyd. Mae cyfyngiadau Covid-19 yn golygu bod
llawer o gyplau wedi gorfod gohirio eu cynlluniau priodasol sawl gwaith gan nad
ydyn nhw am beidio â chael eu priodas ddelfrydol. Mae hyn wedi rhoi llawer o
fywydau ar stop ac mae wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl miloedd.
A
allai gwesteion priodas ddarparu canlyniadau profion negyddol, neu dystiolaeth
o ddau frechiad er mwyn mynychu priodasau digyfyngiad?
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Ar
16 Mehefin 2021 roedd 88.2 y cant o holl oedolion Cymru wedi cael eu brechlyn
Covid-19 cyntaf gan GIG Cymru, ac roedd 57.6 y cant o oedolion wedi cael eu
hail ddos. Yn y saith diwrnod blaenorol roedd 4.6 y cant o'r holl oedolion wedi
cael dau ddos o’r brechlyn gan GIG Cymru. Ar sail y ffigurau hyn, gellir
rhagweld y bydd o leiaf 76 y cant o oedolion Cymru wedi cael dau ddos o
frechlyn erbyn 15 Gorffennaf. At hynny, mae’r ail ddos wedi cael ei gyflwyno’n
gyflymach dros y dyddiau diwethaf gyda 2.7 y cant o oedolion yn cael eu hail
ddos yn ystod y tri diwrnod blaenorol. Gallai hyn gyflymu ymhellach gan fod
brechiad cyntaf wedi cael ei gynnig i bob oedolyn yng Nghymru erbyn hyn, sy’n
golygu bod brechlynnau dros ben.
Mae’n
bosibl y bydd 76 y cant o oedolion Cymru wedi cael y ddau frechiad erbyn 15
Gorffennaf, felly pam y dylai mesurau cadw pellter cymdeithasol barhau ar gyfer
priodasau? Yn enwedig o gofio y byddai pawb sy’n mynd i briodas yn fodlon cael
prawf llif unffordd ac y byddai'n hawdd eu monitro a'u holrhain pe bai angen.
Dyma
ffynhonnell yr holl ffigurau a ddefnyddiwyd: https://coronavirus.data.gov.uk/details/vaccinations
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd
y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chydymdeimlodd â'r rhai sy'n
cynllunio priodasau. Nododd y Pwyllgor fod y camau y gofynnwyd amdanynt yn y
ddeiseb bellach yn digwydd o dan Lefel 0. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb,
gan ddiolch i’r deisebwyr am godi’r mater hwn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
13/09/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2021