P-06-1189 Darparu grantiau ffioedd dysgu i gefnogi myfyrwyr meddygaeth sy'n astudio meddygaeth fel ail radd
P-06-1189 Darparu grantiau ffioedd dysgu i gefnogi myfyrwyr meddygaeth sy'n astudio meddygaeth fel ail radd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Trystan Gruffydd, ar ôl casglu cyfanswm o 54
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’n
rhaid i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau meddygaeth israddedig sydd eisoes wedi
astudio gradd gyntaf dalu £9,250 o flaen llaw ar gyfer ffioedd dysgu, sef
cyfanswm o £37,000 erbyn dechrau eu pedwaredd flwyddyn astudio.
Mae
llawer o fyfyrwyr yn gorfod gweithio swyddi rhan-amser yn ystod eu cwrs heriol,
ac mae’n rhaid iddynt ddod o hyd i gymorth allanol. Dylid darparu grantiau
ffioedd dysgu i’r myfyrwyr meddygaeth hyn er mwyn atal myfyrwyr rhag peidio â
gallu canolbwyntio ar eu hastudiaethau na’u hariannu.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Roedd y Pwyllgor yn cydymdeimlo â'r deisebydd ynghylch y
mater hwn. Fodd bynnag, yng ngoleuni ymateb y Llywodraeth a oedd yn nodi nad
yw’n bwriadu ar hyn o bryd gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r mater
hwn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu
cymryd, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/10/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/09/2021