P-06-1186 Dylid atal pobl nad ydynt wedi byw yng Nghymru ers o leiaf 6 mis rhag ymgeisio yn etholiadau'r Senedd
P-06-1186 Dylid atal pobl nad ydynt wedi byw yng Nghymru ers o leiaf 6 mis rhag ymgeisio yn etholiadau'r Senedd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Owen Sullivan, ar ôl casglu cyfanswm o 143
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae rhai pleidiau gwleidyddol yn parasiwtio ymgeiswyr i mewn o rannau
eraill o'r DU ar gyfer etholiad y Senedd yn 2021.
Drwy gyflwyno'r ymgeiswyr hyn mae gwerth y Senedd yn cael ei lastwreiddio
gan nad ydynt yn gyfarwydd â phobl Cymru, heb sôn am yr etholwyr y maent i fod
i'w cynrychioli.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Diben
Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd i’w hysbysu ynghylch y ddeiseb hon, pe bai’r
Pwyllgor hwnnw’n penderfynu ystyried y maes dan sylw. Wrth ysgrifennu at y
Pwyllgor Diben Arbennig, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r
deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
15/11/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Llanelli
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/11/2021