P-06-1185 Dylai cyfnod preswylio 3 blynedd o leiaf fod yn ofynnol i bob ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd

P-06-1185 Dylai cyfnod preswylio 3 blynedd o leiaf fod yn ofynnol i bob ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan James Davies, ar ôl casglu cyfanswm o 2,682 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Cafwyd sawl achos proffil uchel pan fo pobl wedi bod yn ymgeiswyr i’r Senedd, neu wedi cael eu hethol iddi, er nad oeddent erioed wedi byw yng Nghymru.

 

Rydym yn cynnig y dylid ei gwneud yn ofynnol i Aelodau etholedig o’r Senedd fod wedi byw yng Nghymru ers o leiaf 3 blynedd cyn ymgeisio, er mwyni sicrhau eu bod yn deall y cymunedau y maent am eu cynrychioli.

 

Credwn fod parasiwtio ymgeiswyr i'r Senedd o'r tu allan i Gymru yn tanseilio gwleidyddiaeth Cymru o ran ansawdd ac uniondeb, a rhaid i hyn gael ei atal.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd i’w hysbysu ynghylch y ddeiseb hon, pe bai’r Pwyllgor hwnnw’n penderfynu ystyried y maes dan sylw. Wrth ysgrifennu at y Pwyllgor Diben Arbennig, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/11/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Brycheiniog a Sir Faesyfed
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/11/2021