P-06-1184 Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt!
P-06-1184 Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt!
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Robert Curtis, ar ôl casglu cyfanswm o 4,052 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
plwm yn fetel gwenwynig ac yn wenwyn cryf iawn, ond eto i gyd mae dros 6,000
tunnell yn cael eu tanio at adar hela bob blwyddyn yn y DU. Pe bai unrhyw
ddinesydd yn gollwng miloedd o dunelli o wenwyn yn fwriadol i gefn gwlad Cymru,
byddai’n cael ei hun o flaen ei well mewn llys barn, fel sy’n briodol.
Mae
adar yn aml yn camgymryd pelenni saethu bach am raean neu hadau ac yn eu
hamlyncu, gan ddioddef marwolaethau poenus o ganlyniad. Mae adar sy'n marw fel
arfer yn cael eu cipio’n gyflym gan ysglyfaethwyr – sy’n golygu eu bod nhw’n
marw o olwg y cyhoedd.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Yn
draddodiadol mae'r mwyafrif o ffrwydron – bwledi, pelenni gwn saethu a phelenni
gwn aer, wedi’u gwneud â phlwm.
Mae
plwm yn effeithio ar y rhan fwyaf o systemau'r corff mewn anifeiliaid, gan
gynnwys y systemau nerfol a chylchrediad y gwaed, a gall dod i gysylltiad ag ef
ar lefel isel effeithio ar system imiwnedd ac ymddygiad adar. Mewn rhai
amgylchiadau, gall llyncu un belen plwm, hyd yn oed, ladd aderyn.
Mae
consortiwm o sefydliadau saethu bellach yn cefnogi newid i ffrwydron di-blwm at
ddefnydd pawb sy'n saethu prae byw gyda gynnau yn y pum mlynedd nesaf.
Rydym
yn croesawu'r gydnabyddiaeth hon o'r difrod y mae plwm yn ei wneud i'n
hamgylchedd, ond rydym o’r farn bod yr argyfwng ecolegol yn mynnu ein bod yn
gosod gwaharddiad ar unwaith ar ffrwydron plwm o bob math. At hynny, credwn fod
yn rhaid i'r gwaharddiad gynnwys saethiadau clai ac nid "prae byw" yn
unig, gan fod y ffrwydron plwm a wastraffwyd yn dal i aros yn yr amgylchedd.
Mae
Barry Action yn grŵp cadwraeth gwirfoddol bach sydd wedi'i leoli yn un o
drefi arfordirol de Cymru, Barri.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/09/2021