P-06-1183 Gosod terfyn cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer 100 metr bob ochr i'r groesfan newydd i gerddwyr yng Nglan Conwy
P-06-1183 Gosod terfyn cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer 100 metr bob ochr i'r groesfan newydd i gerddwyr yng Nglan Conwy
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Daniel Worsley, ar ôl casglu cyfanswm o 85 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Diolch
i'r Gweinidog Trafnidiaeth, mae gan Glan Conwy groesfan angenrheidiol i
gerddwyr erbyn hyn ac mae gwelliannau diweddar i'r ffyrdd wedi cynyddu
gwelededd. Fodd bynnag, mae llawer o drigolion yn poeni am gyflymder cerbydau a
gofnodwyd dros gyfnod o bythefnos gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth
Cymru, sef 32.8 milltir yr awr ar gyfartaledd. Mae’r groesfan yn cael ei
defnyddio gan blant ysgol ac oedolion i gyrraedd safle bws a chyfleusterau
chwaraeon lleol yn ogystal â bod yn rhan o lwybr seiclo. Mae llawer o adroddiadau
wedi bod yn y cyfryngau am ddamweiniau a fu bron â digwydd a cherbydau yn
peidio â stopio.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Un
pryder penodol yw y gallai plant gredu eu bod yn ddiogel a chamu neu redeg
allan i'r groesfan heb edrych. Bydd y tymor prysur yn yr haf pan fydd y
twristiaid yn cyrraedd yn cynyddu’r perygl gan y bydd ymwelwyr yn anghyfarwydd
â’r ffordd, yn ogystal â pheidio â thalu sylw o bosibl gan eu bod yn edmygu’r
golygfeydd lleol.
I
gloi, hoffai’r deisebwyr ddadlau bod 30 milltir yr awr yn rhy gyflym ar gyfer
cyflwr y ffordd ar hyn o bryd ac maent yn gofyn i'r Gweinidog ystyried gostwng
y terfyn cyflymder i 20 milltir yr awr yn agos at y groesfan.
Mewn
gwrthdrawiad ar 30 milltir yr awr â cherddwr, y siawns o farwolaeth yw 25%, a’r
siawns ar 20 milltir yr awr yw 2.5%, sy’n golygu ei fod 10 gwaith yn fwy
diogel!
Byddai
gosod terfyn o 20 milltir yr awr am 200 fetr yn ychwanegu ychydig eiliadau yn
unig at amser taith, a byddai’n golygu ei bod yn llawer mwy diogel ac yn helpu
i gael gwared ar bryderon rhieni, sy’n bwysig iawn.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 24/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Asiantaeth Cefnffyrdd
Canolbarth a Gogledd Cymru i’w rhoi mewn cysylltiad â’r Cyngor Cymuned, ac wrth
wneud hynny, diolchodd i’r deisebydd a chaeodd y ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/10/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Aberconwy
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/09/2021