Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru
Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru
Cynhaliodd
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd ymchwiliad
i'r maes hwn, gan gyhoeddi ei Adroddiad
ym mis Mehefin 2017.
Roedd
argymhelliad 9 yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu cynllun tymor
canolig/hir (y tu hwnt i 2021) ar gyfer ariannu prosiectau a fyddai'n cael eu
cynnwys dan y Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol tan 2021.
Dywedodd
Llywodraeth Cymru fod y Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol yn rhoi cyfle am fwy o
fuddsoddi gan awdurdodau lleol yn y gwaith o reoli perygl arfordirol gyda
chyllid yn cael ei ddyfarnu ar gyfer gwaith adeiladu o 2018-21. Roedd y rhaglen
untro hon yn defnyddio cyfraddau llog isel a chyllid refeniw tymor hir i
alluogi buddsoddiad o £150 miliwn.
Erbyn diwedd
blwyddyn ariannol 2019-20, roedd Llywodraeth
Cymru (Saesneg yn unig) yn bwriadu cynnal adolygiad yng nghanol y rhaglen
gyda Thrysorlys Cymru ac awdurdodau lleol ynghylch cynnydd y Rhaglen Rheoli
Perygl Arfordirol fel mecanwaith cyllid a'r galw am gyllid tymor canolig a hir
ar gyfer gwaith arfordirol.
Yn sgil pwysau
eraill, cafodd y Rhaglen ei hymestyn hyd at fis Mawrth 2022.
Tynnodd rhaglen
waith Archwilydd Cyffredinol Cymru sylw at gynlluniau i wneud gwaith dilynol yn
y maes hwn. Bydd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ailedrych ar hyn pan
gyhoeddir adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/05/2022