Datganiad o Egwyddorion
Datganiad o Egwyddorion
Mae Cyrff a
Ariennir yn Uniongyrchol yn cael eu cyllid yn uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol
Cymru; mae'r rhain yn cynnwys:
- Comisiwn y Senedd;
- Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru;
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
- Y Comisiwn Etholiadol – ((Mae Deddf
Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn darparu ar gyfer cyllido gwaith y
Comisiwn Etholiadol ar etholiadau a refferenda datganoledig Cymru o Gronfa
Gyfunol Cymru)).
Mae gan y cyrff
hyn drefniadau gosod cyllideb a goruchwylio penodol i adlewyrchu eu rôl unigryw
a'u hannibyniaeth ar Lywodraeth Cymru.
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn gyfrifol am drafod
a chyflwyno adroddiad ar gyllidebau/amcangyfrifon ariannol Comisiwn y Senedd,
Archwilydd Cyfffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, ac Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae Pwyllgor y Llywydd yn gyfrifol am
drafod a chyflwyno adroddiad ar amcangyfrif ariannol y Comisiwn Etholiadol o
ran ei swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig
Cymru.
Yn ystod y Bumed
Senedd, cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad
byr i gyllido Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol a’r nod oedd sicrhau
cysondeb yn y modd roedd y cyrff hyn paratoi eu cynigion cyllidebol blynyddol.
Ym mis Mai 2019,
o ganlyniad i’r ymchwiliad hwn, cyhoeddodd y Pwyllgor Ddatganiad
o Egwyddorion (‘yr Egwyddorion’) (PDF, 224KB) yr oedd y Pwyllgor yn disgwyl
i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol eu hystyried wrth wneud cynigion cyllidebol.
(Nid oedd swyddogaethau’r Comisiwn Etholiadol yn rhan o gyfrifoldebau’r Senedd ar y pryd).
Y Datganiad o
Egwyddorion
Mae paragraff 9
o’r Egwyddorion yn rhoi ymrwymiad y bydd y Pwyllgor yn adolygu’r ddogfen yn
ystod y flwyddyn y byddent yn cael eu rhoi ar waith ac o bryd i’w gilydd wedi
hynny.
Yn 2020, y
flwyddyn wedi iddynt gael eu rhoi ar waith, aeth y Pwyllgor ati i adolygu’r
Egwyddorion a daeth i’r casgliad eu bod yn ateb y diben ac nad oedd angen
unrhyw newidiadau.
Ar ddechrau’r
Chweched Senedd, ar 8 Gorffennaf 2021, cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Cyrff a
Ariennir yn Uniongyrchol barhau i ddilyn yr Egwyddorion
drafft (PDF, 297KB) presennol wrth baratoi eu dogfennau cyllidebol. Ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Diprwy Lywydd, yn ei rôl fel Cadeirydd Pwyllgor y Llywydd,
i awgrymu y dylai’r Egwyddorion fod yn gymwys i’r Comisiwn Etholiadol i sicrhau
cysondeb.
Ar 26 Ebrill
2023, cytunodd y Pwyllgor ei bod yn adeg briodol i adolygu’r Egwyddorion ac ysgrifennodd
(PDF 151KB) at y Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol i ofyn am eu barn.
Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/08/2021
Dogfennau
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Gwybodaeth ariannol i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ei hystyried wrth gynllunio eu cyllideb - 11 Gorffennaf 2025
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a swyddfa'r Cabinet; Datganiad o Egwyddorion ar gyfer cyrff a ariennir yn uniongyrchol – 19 Gorffennaf 2024
PDF 161 KB - Llythyr at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar yr adolygiad o’r datganiad o egwyddorion - 18 Hydref 2023
PDF 199 KB - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o’r datganiad o egwyddorion - 18 Hydref 2023
PDF 212 KB - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth i gynorthwyo’r cyrff a ariennir yn uniongyrchol (DFBs) baratoi eu Hamcangyfrifon/Cyllidebau - 12 Gorffennaf 2023
PDF 154 KB - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adolygiad o'r Datganiad o Egwyddorion - 9 Mai 2023
PDF 194 KB - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol – Adolygiad o’r Datganiad o Egwyddorion – 4 Mai 2023
PDF 151 KB - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth i gynorthwyo’r cyrff a ariennir yn uniongyrchol (DFBs) baratoi eu Hamcangyfrifon/Cyllidebau - 14 Gorffennaf 2022
PDF 153 KB - Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd ynghylch goruchwyliaeth ariannol y Comisiwn Etholiadol – 9 Medi 2021
PDF 512 KB Gweld fel HTML (9) 11 KB - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth ariannol i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ei hystyried wrth gynllunio eu cyllideb - 2 Awst 2021
PDF 261 KB - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd: Trosolwg ariannol ar cyrff a ariennir yn uniongyrchol drwy Gronfa Gyfunol Cymru - 15 Gorffennaf 2021
PDF 208 KB - Datganiad o Egwyddorion y mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn disgwyl i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol eu hystyried wrth wneud cynigion cyllidebol - Gorffennaf 2021
PDF 296 KB Gweld fel HTML (12) 34 KB - Datganiad o Egwyddorion y mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn disgwyl i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol eu hystyried wrth wneud cynigion cyllidebol – Mai 2019