Gwaith craffu cyffredinol ar waith Gweinidogion sydd â chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol

Gwaith craffu cyffredinol ar waith Gweinidogion sydd â chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol

O bryd i’w gilydd mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn craffu’n gyffredinol ar Lywodraeth Cymru a’i chyrff cyhoeddus a swyddfeydd cysylltiedig ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd a lles corfforol, meddyliol a chyhoeddus pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol:

 

>>>> 

>>> Ar 23 Medi 2021, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidogion ar 13 Hydref 2021 i ofyn cwestiynau dilynol. Ymatebodd y Gweinidog ar 1 Tachwedd 2021

>>> Ar 16 Hydref 2022, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ystod y sesiwn, gofynnodd yr Aelodau gwestiynau a gafodd eu hawgrymu gan y cyhoedd a rhanddeiliaid. Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidogion ar 25 Hydref 2022 i ofyn cwestiynau dilynol gan gynnwys materion a awgrymwyd gan y cyhoedd a rhanddeiliaid nad oedd wedi cael sylw yn ystod y sesiwn graffu. Ymatebodd y Gweinidog ar 15 Rhagfyr 2022. Mae rhagor o wybodaeth am sut y defnyddiodd y Pwyllgor y cwestiynau a awgrymwyd, a’r hyn a ddywedodd Llywodraeth Cymru, ar gael ar flog y Senedd

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/08/2021

Dogfennau

Ymgynghoriadau