Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd

Inquiry5

 

Sefydlwyd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan y Senedd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae’r rhain yn cynnwys iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

 

Ymgynghoriad ar flaenoriaethau – haf 2021

 

Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021 gofynnodd y Pwyllgor i bobl a sefydliadau rannu eu barn am y materion a'r blaenoriaethau pwysicaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y Chweched Senedd. Daeth 139 o ymatebion at y Pwyllgor.

 

Defnyddiodd y Pwyllgor yr ymatebion i ddatblygu strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd.

 

Strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd – Rhagfyr 2021

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei strategaeth ar gyfer y Chweched, a chrynodeb ohoni ym mis Rhagfyr 2021. Mae fersiwn ar y we ar gael hefyd.

 

Mae'r strategaeth yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf rhwng 2021 a 2026, a sut y bydd aelodau’r Pwyllgor yn gweithio gyda’i gilydd. Mae'n nodi themâu trawsbynciol a fydd yn cael eu hymgorffori yn holl waith y Pwyllgor, ac yn nodi materion i’w blaenoriaethu.

 

Bydd y strategaeth yn arwain ac yn llywio gwaith y Pwyllgor, ond ni fydd yn cyfyngu ar ei allu i fod yn hyblyg neu ymateb i faterion sy'n dod i'r amlwg.

 

Adolygiad interim – Chwefror 2023

 

Roedd ein strategaeth yn cynnwys ymrwymiad i fyfyrio ar ein gwaith hyd yma, a pha gamau pellach y gallem eu cymryd i ysgogi cynnydd.

 

Ym mis Chwefror 2023 fe wnaethom gynnal adolygiad interim. Gwnaethom gyhoeddi canlyniadau’r adolygiad, gan gynnwys pedwar casgliad allweddol, ym mis Mehefin 2023.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/07/2021

Dogfennau

Ymgynghoriadau