Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd
Inquiry5
Sefydlwyd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan
y Senedd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i
gyfrif mewn meysydd penodol. Mae’r rhain yn cynnwys iechyd corfforol, iechyd
meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal
cymdeithasol.
Rhwng mis Gorffennaf
a mis Medi 2021 gofynnodd y Pwyllgor i bobl a sefydliadau rannu eu barn am y
materion a'r blaenoriaethau pwysicaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn
ystod y Chweched Senedd. Daeth 139 o
ymatebion at y Pwyllgor.
Defnyddiodd y
Pwyllgor yr ymatebion i ddatblygu strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei strategaeth
ar gyfer y Chweched, a chrynodeb
ohoni ym mis Rhagfyr 2021. Mae fersiwn
ar y we ar gael hefyd.
Mae'r strategaeth
yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol dros y
pum mlynedd nesaf rhwng 2021 a 2026, a sut y bydd aelodau’r Pwyllgor yn
gweithio gyda’i gilydd. Mae'n nodi themâu trawsbynciol a fydd yn cael eu
hymgorffori yn holl waith y Pwyllgor, ac yn nodi materion i’w blaenoriaethu.
Bydd y
strategaeth yn arwain ac yn llywio gwaith y Pwyllgor, ond ni fydd yn cyfyngu ar
ei allu i fod yn hyblyg neu ymateb i faterion sy'n dod i'r amlwg.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/07/2021
Dogfennau
- Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Strategaeth y Chweched Senedd
PDF 303 KB Gweld fel HTML (1) 49 KB
- Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Strategaeth y Chweched Senedd - Crynodeb
PDF 89 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at randdeiliaid ynghylch cyhoeddi strategaeth y Pwyllgor - 15 Rhagfyr 2021
PDF 73 KB
Ymgynghoriadau
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd (Wedi ei gyflawni)