Trefniadau Llywodraethu Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
Trefniadau Llywodraethu Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
Cyhoeddodd Archwilydd
Cyffredinol Cymru yr adroddiad
hwn ym mis Mai 2021. Cydbwyllgor yw Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol
Cymru, sy’n cynnwys y saith bwrdd iechyd lleol yng Nghymru. Mae’r cydbwyllgor
yn comisiynu tua £680 miliwn o wasanaethau arbenigol, ac fe’i lletyir gan Fwrdd
Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Tynnodd dau adolygiad ar wahân yn 2015 sylw
at faterion yn ymwneud â threfniadau llywodraethu Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd
Arbenigol Cymru.
Canfu’r adroddiad
fod y trefniadau llywodraethu, rheoli a chynllunio wedi gwella, ond bydd
effaith COVID-19 yn gofyn am strategaeth glir er mwyn adfer y gwasanaethau hyn.
Ceir manteision hefyd o edrych o’r newydd ar ‘Cymru Iachach’, sef model
hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, o ystyried
rhai o’r heriau mewnol y mae’n eu cyflwyno i fyrddau iechyd.
Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ym mis Mehefin 2021.
Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yr adroddiad hwn yn hydref 2021 ac ysgrifennodd at
Lywodraeth Cymru ar 10 Rhagfyr 2021 yn gofyn am eglurhad ar nifer o faterion.
Ystyriwyd yr ymateb (31 Ionawr 2022) yn y Pwyllgor ar 9 Chwefror 2022.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/08/2021
Dogfennau
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru - 3 Mawrth 2022
PDF 640 KB - Llythyr gan Lywodraeth Cymru - 31 Ionawr 2022
PDF 478 KB - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru - 10 Rhagfyr 2021
PDF 123 KB - Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - 2 Mehefin 2021 (Saesneg yn unig)
PDF 289 KB