Cyflenwi Gwasanaeth TGCh Llywodraeth Cymru yn fewnol
Cyflenwi Gwasanaeth TGCh Llywodraeth Cymru yn fewnol
Cyhoeddodd Archwilydd
Cyffredinol Cymru yr adroddiad
hwn ym mis Mawrth 2021. Mae'n ystyried y penderfyniad i gyflenwi gwasanaeth
TGCh Llywodraeth Cymru yn fewnol, a pha mor effeithiol y bu'r broses honno.
Canfu'r adroddiad
fod y prosiect cyflenwi mewnol wedi cael ei reoli'n dda a'i gyflawni'n brydlon.
Mae rhai buddion yn cael eu cyflawni, ond nid yw'r buddion llawn wedi'u
gwireddu eto.
Mae argymhellion
yr adroddiad yn canolbwyntio ar wella’r broses o olrhain buddion a chostau,
diweddaru'r dangosyddion perfformiad ar gyfer gwasanaethau TGCh, ac ailedrych
ar lefelau staffio er mwyn sicrhau bod buddion llawn y newid hwn yn cael eu
gwireddu.
Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ym mis Mehefin 2021.
Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yr adroddiad hwn yn hydref 2021 a bydd yn ei drafod
â Llywodraeth Cymru fel rhan o’r gwaith craffu ar gyfrifon ar gyfer 2020-21.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/08/2021
Dogfennau