Gweithredu rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru

Gweithredu rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr adroddiad hwn ym mis Mehefin 2021. Roedd yn ystyried ffurf y rhaglen, ei pherfformiad, y ffactorau sydd wedi effeithio ar ei gweithredu hyd yma, a’r heriau a’r cyfleoedd a fydd yn codi yn y dyfodol.

 

Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod y rhaglen frechu yng Nghymru wedi cael ei chyflwyno ar gyflymder sylweddol, gyda phartneriaid lleol, cenedlaethol ac o'r DU yn cydweithio i frechu cyfran sylweddol o boblogaeth Cymru.

 

Wrth lunio'r adroddiad hwn, cyfraddau brechu Cymru oedd yr uchaf o blith pedair cenedl y DU, ac roedd y cyfraddau hefyd ymhlith yr uchaf drwy'r byd.

Canfu’r astudiaeth fod strategaeth frechu Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymhelliant cryf i yrru'r rhaglen yn ei blaen, a bod yr holl gerrig milltir wedi'u cyrraedd hyd yma.

 

Nododd yr astudiaeth fod llawer o wersi i'w dysgu yn sgil y dull cadarnhaol a ddefnyddiwyd i weithredu'r rhaglen frechu hyd yma. Dylid ystyried cymhwyso'r gwersi hyn i strategaethau imiwneiddio ehangach, ac i'r broses o gynnal rhaglenni eraill yn y GIG yng Nghymru.

 

Er gwaethaf y cynnydd a wnaed, pwysleisiodd yr adroddiad fod gwaith i’w wneud o hyd. Mae angen cynllun tymor hwy sy’n symud y tu hwnt i’r cerrig milltir presennol ac yn ystyried materion allweddol megis gwydnwch y gweithlu brechu, gwybodaeth sy’n esblygu am ddiogelwch brechlynnau, yr angen am ddosau atgyfnerthu, a chynnal cyfraddau defnyddio da – yn enwedig ymhlith y grwpiau hynny sydd wedi bod braidd yn betrus wrth gael eu brechiadau.

 

Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yr adroddiadau hyn yn hydref 2021 a thrafododd ei ganfyddiadau â Llywodraeth Cymru ar 17 Tachwedd 2021.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/08/2021

Dogfennau