Profi, Olrhain, Diogelu

Profi, Olrhain, Diogelu

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr adroddiad hwn ym mis Mawrth 2021. Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg lefel uchel o'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru, gan ystyried y modd y cafodd y rhaglen ei sefydlu a’i datblygu'n barhaus, a chan nodi rhai o'r prif heriau y byddai’r rhaglen yn eu hwynebu yn 2021.

 

Canfu’r astudiaeth fod y rhaglen wedi bod yn llwyddiannus o ran dod â rhannau gwahanol o’r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd er mwyn mynd ati’n gyflym i greu system o brofi ac olrhain cysylltiadau, gan ddechrau o’r dechrau i raddau helaeth. Er bod y rhaglen wedi ei chael yn anodd ymdopi â brigau cynharach yng nghyfraddau trosglwyddo’r feirws, mae wedi dangos gallu i ddysgu ac esblygu’n gyflym mewn ymateb i’r heriau y mae wedi’u hwynebu.

 

Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yr adroddiadau hyn yn hydref 2021 a thrafododd ei ganfyddiadau â Llywodraeth Cymru ar 17 Tachwedd 2021.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/08/2021

Dogfennau