Caffael a Chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer Pandemig COVID-19

Caffael a Chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer Pandemig COVID-19

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr Adroddiad hwn ym mis Ebrill 2021. Roedd yn canolbwyntio ar yr ymdrechion cenedlaethol i gyflenwi cyrff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

Ni adolygwyd trefniadau i gaffael Cyfarpar Diogelu Personol yn lleol gan y GIG a chyrff llywodraeth leol, na’r trefniadau logistaidd a oedd yn eu lle’n lleol i ddosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol yn uniongyrchol i staff rheng flaen, fel rhan o'r astudiaeth hon. Serch hynny, roedd yr astudiaeth yn adlewyrchu’r dystiolaeth a gasglwyd gan gyrff proffesiynol am farn staff rheng flaen.

 

Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar yr ymdrechion cenedlaethol i gyflenwi cyrff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

Ni adolygwyd trefniadau i gaffael Cyfarpar Diogelu Personol yn lleol gan y GIG a chyrff llywodraeth leol, na’r trefniadau logistaidd a oedd yn eu lle’n lleol i ddosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol yn uniongyrchol i staff rheng flaen fel rhan o'r astudiaeth hon. Serch hynny, roedd yr astudiaeth yn adlewyrchu’r dystiolaeth a gasglwyd gan gyrff proffesiynol am farn staff rheng flaen.

 

Canfu’r astudiaeth: “Ar y cyd â gwasanaethau cyhoeddus eraill, fe wnaeth y Cydwasanaethau oresgyn heriau cynnar i ddarparu’r Cyfarpar Diogelu Personol a oedd yn ofynnol yn ôl canllawiau ar gyfer cyrff iechyd a gofal heb redeg allan o stoc ar lefel genedlaethol.

 

"Maent bellach mewn sefyllfa gryfach o lawer, gyda phentwr o’r rhan fwyaf o Gyfarpar Diogelu Personol ac archebion wedi’u cyflwyno ar gyfer y rhai sydd islaw 24 wythnos.

 

"Mae rhai aelodau o staff rheng-flaen wedi dweud eu bod wedi profi prinder Cyfarpar Diogelu Personol, ac roedd rhai’n teimlo y dylent fod wedi cael lefel uwch o Gyfarpar Diogelu Personol nag sy’n ofynnol yn ôl y canllawiau.

 

"Sefydlodd Llywodraeth Cymru a’r Cydwasanaethau drefniadau da ar y cyfan i gaffael Cyfarpar Diogelu Personol a helpodd i reoli risgiau ac osgoi rhai o’r materion yr adroddwyd arnynt yn Lloegr.

 

"Fodd bynnag, ni chyhoeddodd y Cydwasanaethau hysbysiadau dyfarnu contract ar gyfer eu holl gontractau Cyfarpar Diogelu Personol o fewn 30 diwrnod i’w gosod."

 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ym mis Mehefin 2021.

 

Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yr adroddiadau hyn yn hydref 2021 a thrafododd ei ganfyddiadau â Llywodraeth Cymru ar 17 Tachwedd 2021.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/08/2021

Dogfennau