Caffael a Chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer Pandemig COVID-19
Cyhoeddodd Archwilydd
Cyffredinol Cymru yr Adroddiad
hwn ym mis Ebrill 2021. Roedd yn canolbwyntio ar yr ymdrechion cenedlaethol i
gyflenwi cyrff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ni adolygwyd
trefniadau i gaffael Cyfarpar Diogelu Personol yn lleol gan y GIG a chyrff
llywodraeth leol, na’r trefniadau logistaidd a oedd yn eu lle’n lleol i
ddosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol yn uniongyrchol i staff rheng flaen, fel
rhan o'r astudiaeth hon. Serch hynny, roedd yr astudiaeth yn adlewyrchu’r
dystiolaeth a gasglwyd gan gyrff proffesiynol am farn staff rheng flaen.
Roedd yr
adroddiad yn canolbwyntio ar yr ymdrechion cenedlaethol i gyflenwi cyrff iechyd
a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ni adolygwyd
trefniadau i gaffael Cyfarpar Diogelu Personol yn lleol gan y GIG a chyrff
llywodraeth leol, na’r trefniadau logistaidd a oedd yn eu lle’n lleol i
ddosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol yn uniongyrchol i staff rheng flaen fel
rhan o'r astudiaeth hon. Serch hynny, roedd yr astudiaeth yn adlewyrchu’r
dystiolaeth a gasglwyd gan gyrff proffesiynol am farn staff rheng flaen.
Canfu’r
astudiaeth: “Ar y cyd â gwasanaethau cyhoeddus eraill, fe wnaeth y
Cydwasanaethau oresgyn heriau cynnar i ddarparu’r Cyfarpar Diogelu Personol a
oedd yn ofynnol yn ôl canllawiau ar gyfer cyrff iechyd a gofal heb redeg allan
o stoc ar lefel genedlaethol.
"Maent
bellach mewn sefyllfa gryfach o lawer, gyda phentwr o’r rhan fwyaf o Gyfarpar
Diogelu Personol ac archebion wedi’u cyflwyno ar gyfer y rhai sydd islaw 24
wythnos.
"Mae rhai
aelodau o staff rheng-flaen wedi dweud eu bod wedi profi prinder Cyfarpar
Diogelu Personol, ac roedd rhai’n teimlo y dylent fod wedi cael lefel uwch o
Gyfarpar Diogelu Personol nag sy’n ofynnol yn ôl y canllawiau.
"Sefydlodd
Llywodraeth Cymru a’r Cydwasanaethau drefniadau da ar y cyfan i gaffael
Cyfarpar Diogelu Personol a helpodd i reoli risgiau ac osgoi rhai o’r materion
yr adroddwyd arnynt yn Lloegr.
"Fodd
bynnag, ni chyhoeddodd y Cydwasanaethau hysbysiadau dyfarnu contract ar gyfer
eu holl gontractau Cyfarpar Diogelu Personol o fewn 30 diwrnod i’w gosod."
Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ym mis Mehefin 2021.
Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yr adroddiadau hyn yn hydref 2021 a thrafododd ei
ganfyddiadau â Llywodraeth Cymru ar 17 Tachwedd 2021.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/08/2021
Dogfennau