Offeryn Data Cyllid GIG Cymru - hyd at fis Mawrth 2021
Offeryn Data Cyllid GIG Cymru - hyd at fis Mawrth 2021
Cyhoeddodd Archwilydd
Cyffredinol Cymru fersiwn wedi'i diweddaru o'r offeryn
data ym mis Mehefin 2021. Nodwyd bod cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd
yng Nghymru wedi cynyddu £1.7 biliwn, gyda llawer ohono ar gyfer talu costau
COVID-19. Ar ôl cynnwys chwyddiant, roedd hynny'n golygu cynnydd o 12.8 y cant
mewn termau real, ac yn cyfateb i gyllid o £2,620 ar gyfer pob person yng
Nghymru ar gyfer 2020-21.
Er gwaethaf y
cyllid uwch, erys gorwariant ar draws GIG Cymru. Methodd pedwar bwrdd iechyd â
bodloni eu dyletswydd i fantoli’r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd. Fodd
bynnag, ceir cynnydd cadarnhaol. Gostyngodd cyfanswm y diffyg o £89 miliwn yn
2019-20 i £48 miliwn eleni, a gostyngodd y gorwariant cronnol tair blynedd ar
draws y GIG o £352 miliwn i £233 miliwn.
Roedd dau o'r
pedwar corff a fethodd â bodloni eu dyletswydd ariannol i fantoli’r gyllideb
dros dair blynedd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol
Bae Abertawe – hefyd wedi methu â mantoli eu cyllidebau yn ystod y flwyddyn.
Er bod Bwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i ddangos tuedd sy'n gwella o ran ei
sefyllfa ariannol, mae cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi dirywio
unwaith eto.
Mae'r ddau gorff
arall sy'n methu â bodloni eu dyletswydd ariannol i fantoli’r gyllideb dros
dair blynedd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr – ill dau wedi gwneud cynnydd ariannol sylweddol, gan
fantoli’r gyllideb yn ystod y flwyddyn.
Cymhwysodd yr
Archwilydd Cyffredinol ei farn archwilio ar reoleidd-dra gwariant y pedwar
corff hwn ar gyfer 2020-21, gan fod methu â bodloni’r ddyletswydd hon yn golygu
eu bod i gyd wedi gwario y tu hwnt i’w hawdurdod.
Buodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn trafod a nodi y fersiwn ddiweddaraf o’r offeryn
data yn nhymor yr Hydref 2021.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/08/2021