Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Crynodeb o'r cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion

Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Crynodeb o'r cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr adroddiad hwn ym mis Mai 2021.

 

Ym mis Tachwedd 2019, gweithiodd Archwilio Cymru gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i gwblhau adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ansawdd a rheoli risg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gwnaed y gwaith hwn yn dilyn adroddiad gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, a oedd yn nodi nifer o bryderon difrifol a methiannau mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth.

 

Gwnaed 14 o argymhellion ar gyfer gwella’r trefniadau ar gyfer rheoli risg, y broses o ymdrin â digwyddiadau, honiadau a chwynion (pryderon), diogelwch cleifion, a’r diwylliant sefydliadol.

 

Derbyniodd y Bwrdd Iechyd y canfyddiadau yn llawn, a dechreuodd y broses o ymateb i’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

Yn y gwaith dilynol a wnaed ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (Mai 2021), gwelwyd bod y Bwrdd Iechyd yn gwneud cynnydd da o ran mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed yn 2019, yn enwedig o ystyried yr heriau yr oedd yn eu hwynebu wrth ymateb i’r pandemig.

 

Nodwyd bod y Bwrdd wedi dangos cryn ymrwymiad, ysgogiad a brwdfrydedd, ynghyd ag awydd clir i wneud pethau'n iawn.

 

Er gwaethaf y cynnydd da a wnaed, mae gwaith i'w wneud o hyd ym mhob un o'r meysydd lle nodwyd argymhellion yn 2019.

 

Gwnaeth Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd rywfaint o waith ar y mater hwn rhwng mis Mai 2019 a mis Ionawr 2020.

 

Nid oedd y Pwyllgor hwnnw'n gallu gwneud unrhyw waith dilynol pellach yn sgil ei waith ar COVID, ond mae'r Pwyllgor olynol yn ymwybodol o'r Adroddiad diweddaraf hwn.

 

Buodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn trafod a nodi yr adroddiad hwn yn nhymor yr Hydref 2021.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/08/2021