P-06-1177 Darparu cynhyrchion mislif yn rhad ac am ddim i bob person sy'n cael mislif yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Lili Smith, ar ôl casglu cyfanswm o 481 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Nid
yw'r £3.1 miliwn a ddarperir i ysgolion yng Nghymru i brynu cynhyrchion mislif
yn ddigon i gadw pob merch ifanc allan o dlodi mislif ac mewn addysg. A minnau
wedi profi embaras mislif yn uniongyrchol, gwn sut deimlad yw eistedd drwy
wers, yn gwaedu drwy fy nghynnyrch mislif oherwydd bod gen i ormod o gywilydd
gofyn i ffrind, neu athro, a gawn fenthyg y cynnyrch ganddyn nhw. Mae angen
inni roi terfyn ar y stigma o ran y mislif, a rhoi cynhyrchion mislif am ddim i
bob merch.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Ni
all 1 o bob 10 merch 14-21 oed yn y DU fforddio cynhyrchion mislif. Mae 49 y
cant o ferched wedi colli diwrnod ysgol oherwydd hyn. Mae merched ifanc yn
peryglu eu hiechyd corfforol drwy wneud cynhyrchion mislif eu hunain o hancesi
papur, sanau a bagiau plastig.
Nid
problem i ferched ifanc yn eu harddegau yn unig mo hon. Mae 56 y cant o ferched
ifanc 18-24 oed wedi gorfod mynd ddiwrnod heb gynhyrchion mislif hanfodol, neu
ddefnyddio llai ohonynt oherwydd prinder arian.
Mae
llawer o fenywod yn teimlo cywilydd oherwydd eu mislif, ac maen nhw hyd yn oed
yn teimlo cywilydd ynglŷn â phrynu cynhyrchion mislif angenrheidiol iddyn
nhw’u hunain. Mae'r cywilydd hwn yn hynod niweidiol gan ei fod yn atal sgyrsiau
angenrheidiol am y mislif, sy’n arwain at ddiffyg gwybodaeth am eu goblygiadau
yn y pen draw. Er enghraifft, diffyg lleddfu poen cramp mislif effeithiol, sy’n
gallu arwain at effaith ar y gallu i weithio yn yr ystafell ddosbarth.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru sydd ar ddod ar y Cynllun Gweithredu Strategol ar Urddas
Mislif ac i annog y deisebydd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad fel ffordd wych
o fynd â'r ymgyrch hon ymhellach. Wrth wneud hynny cytunodd y Pwyllgor i
ddiolch i'r deisebydd am godi mater mor bwysig, ac ychwanegodd fod yr Aelodau
yn cefnogi'r ddeiseb yn llawn, a chau'r ddeiseb.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/09/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2021